Derbyn i Ysgol - Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Mae corff llywodraethol Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yn uniongyrchol gyfrifol am reoli proses dderbyn yr ysgol. 

Rhaid i bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir dderbyn hyd at ei nifer derbyn. Os bydd nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu'n unol â'r meini prawf gormod o geisiadau y mae pob ysgol wedi cytuno arnynt. 

Fel arfer, caiff y dewis cyntaf ei gynnig ar sail crefydd, lleoliad y cartref, brodyr a chwiorydd ac ati. 

Mae manylion am enwau a chyfeiriadau ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, eu polisïau derbyn a manylion am bolisi cludiant yr Awdurdod yn ymwneud ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion.

I gloi, caiff pob derbyniad i unrhyw ysgol ei drin yn unol â pholisi derbyn yr ALl neu bolisi derbyn yr ysgol, ac ni chaiff disgyblion eu 'dethol' ac ni chynhelir cyfweliadau ar unrhyw adeg i benderfynu ar dderbyniadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyniadau Ysgol 

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig