Ysgol o Ddewis y Rhieni

Caiff derbyniadau plant i ysgolion eu rheoli a'u gweinyddu gan 'Awdurdod Derbyniadau'. Yn achos ysgolion y fwrdeistref sirol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, cydnabyddir Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (yr 'ALl') fel yr awdurdod hwn.

Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, corff llywodraethol yr ysgol unigol yw'r awdurdod derbyniadau.

Mae newidiadau i'r gyfraith yn golygu bod rhaid i'r ALl roi cyfle i rieni/gofalwyr fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i'w plentyn ei mynychu.

Gallai methu â llenwi a dychwelyd ffurflen gais arwain at rai rhieni/gofalwyr yn cael gwrthod lle i'w plentyn yn eu hysgol leol, os yw'r galw am leoedd yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Ar ôl y dyddiad cau, bydd unrhyw newid mewn amgylchiadau y rhoddir gwybod i'r Awdurdod amdano erbyn diwedd mis Chwefror, yn cael ei ystyried. Sylwer nad yw'r Awdurdod yn gweithredu polisi i gyflymu disgyblion i grwpiau blynyddoedd uwch. Wrth wneud cais, gall rhieni/gofalwyr enwi mwy nag un ysgol yn nhrefn eu dewis, a bydd yr Awdurdod yn ceisio cydymffurfio ag o leiaf un o'r dewisiadau hynny.

Lle mae nifer y ceisiadau'n uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael bydd yn rhaid i'r Awdurdod i wrthod derbyn, yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Fodd bynnag, mae gan rieni gawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad tebyg. 

Ar gyfer mynediad i mewn Cyfnod Sylfaen byddai'n rhaid i'r Awdurdod hefyd i gymryd i ystyriaeth y fenter maint dosbarthiadau Llywodraethau sy'n cyfyngu ar nifer y disgyblion sydd i'w cynnwys o fewn unrhyw ddosbarth babanod i 30 neu lai.

Yn olaf, caiff pob derbyniad i unrhyw ysgol ei drin yn unol â pholisi derbyniadau naill ai'r ALl neu bolisi derbyniadau'r ysgol, ac ni chaiff disgyblion eu 'dethol' neu eu cyfweld i benderfynu ar dderbyniadau ar unrhyw adeg.

Mae manylion llawn am Ddewis Rhieni, Trefniadau Derbyn yr Awdurdod, Apeliadau a Pholisi Cludiant yr Awdurdod ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau Ysgol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyniadau Ysgol

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig