Y Cynnig Gofal Plant i Gymru (Gofal Plant 30 awr)

Beth yw’r Cynnig Gofal Plant?

Mae’r cynnig gofal plant Cymru yn gyfuniad o addysg cynnar (rhwng 10 – 12.5 awr) a gofal plant (rhwng 17.5 – 20 awr), am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Nid oes raid i rieni ddechrau eu hawl i addysg gynnar fel rhagofyniad i gael mynediad i’r elfen gofal plant o’r cynnig. Fodd bynnag, bydd eu hawl yn cynnwys yr oriau hyn p’un a ydynt yn eu defnyddio ai peidio.

Os cynigir/derbynnir oriau Cyfnod Sylfaen Meithrin ychwanegol bydd y nifer o oriau gofal plant yn cael ei leihau yn unol â hynny.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynnig?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig y mae’n rhaid i riant:

  • Fyw yng Nghymru;
  • Cael plentyn cymwys o fewn yr ystod oedran; a
  • Cwrdd ag un o’r diffiniadau canlynol o riant sy’n gweithio neu riant mewn addysg neu hyfforddiant

Rhieni sy’n gweithio

  • Fod yn ennill cyflog yn gyfartal ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol, cyflog byw cenedlaethol neu fwy,
  • Mae’n rhaid i pob rhiant enill £100,000 neu lai y flwyddyn
  • Mae angen i rieni teuluoedd unigol fod yn gweithio
  • Rhaid i deuluoedd gyda dau rhiant fod y ddau riant yn gweithio
  • Mae angen i rieni sy’n hunangyflogedig neu ar gontract sero oriau brofi eu statws ac yn darparu dogfennau perthnasol
  • Rhieni sy’n gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig ond sydd ar absenoldeb statudol er enghraifft, cyfnod mamolaeth

Bydd angen i rieni, gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriaid sy’n byw yn y cartref fodloni’r meini prawf er mwyn i blentyn, sy’n byw yn y cartref hwnnw, allu derbyn y cynnig.

Rhieni mewn addysg neu hyfforddiant

  • Mewn perthynas ag addysg uwch – rhaid i riant gael ei gofrestru ar naill ai cwrs israddedig neu Ôl -raddedig, gan gynnwys y rhai a gyflwynir trwy ddysgu o bell, sydd o leiaf 10 wythnos o hyd;
  • O ran addysg bellach – Mae’n rhaid i riant gofrestru ar gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy sefydliad AB, ac o leiaf 10 wythnos o hyd.

Dylai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant ddarparu tystiolaeth o gofrestru ffurfiol ar gwrs AU neu AB perthnasol. Pan fo rhiant wedi ymgeisio a chael cynnig lle ar gwrs AU neu AB perthnasol, ond nad yw wedi gallu cofrestru eto, byddai angen iddyn nhw ddarparu tystiolaeth o gynnig ffurfiol o le ar y cwrs. Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i’r Cynnig o’r pwynt y mae eu cwrs yn dechrau arni.

Yn y ddau achos dylai’r dystiolaeth hon nodi: –

  • dyddiad dechrau’r cwrs; a
  • dyddiad gorffen y cwrs a/neu hyd y cwrs mewn wythnosau; a
  • enw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs

Efallai y bydd gofalwyr maeth, gofalwyr carennydd a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu hefyd yn gymwys. Gwiriwch os ydych yn gymwys yma: https://llyw.cymru/gwirio-cymhwysedd-cynnig-gofal-plant

Eithriadau i gymhwysedd

Mae yna rai amgylchiadau lle bydd rhieni’n gallu cyrchu’r cynnig pan nad ydyn nhw’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd:

  • Ble mae un neu’r ddau riant i ffwrdd dros dro o’r gweithle ar dâl salwch statudol neu wrth dderbyn tâl mamolaeth / tadolaeth statudol.
  • Lle mae un rhiant yn gyflogedig ac mae un rhiant yn anabl neu’n analluog yn seiliedig ar dderbyn buddion penodol neu mae ganddo gyfrifoldebau gofalu sylweddol yn seiliedig ar fuddion penodol a dderbynnir ar gyfer gofalu;
  • Rhieni newydd hunangyflogedig
  • Gofalwyr carennydd, gofalwyr teulu a ffrindiau sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am blentyn neu lys plentyn nad yw’n eiddo iddo’i hun oherwydd: Nid oes gan y plentyn rieni neu mae ganddo rieni nad ydyn nhw’n gallu gofalu am y plentyn
  • Mae’n debygol y byddai awdurdod lleol yn gofalu amdano fel arall oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn
  • Efallai y bydd dwy riant aelwyd lle mae un rhiant yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant a’r llall wedi ymddeol, ar ôl cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant pe bai’r rhiant wedi ymddeol yn derbyn un neu fwy o’r buddion cymwys cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.

A fydd rhaid i mi dalu am unrhyw beth?

Mae’r Cynnig yn ariannu uchafswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru bob wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r arian gan y llywodraeth ar gyfer yr addysg a’r gofal y gweithwyr proffesiynol o fewn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle sy’n golygu tâl ychwanegol a bydd darparwyr yn gallu codi am y rhain.

Bydd cost trafnidiaeth yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a pha mor bell mae’n rhaid i chi deithio. Ni ddylai darparwyr godi mwy na £9 y dydd am fwyd neu £5.75 am hanner diwrnod (yn cynnwys cinio).

A fydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Gallai unrhyw gyllid o’r Cynnig tuag at eich costau gofal plant effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch.

Credyd Cynhwysol

Ni allwch ddefnyddio’r rhan costau gofal plant o’r Credyd Cynhwysol ar gyfer oriau o ofal plant a ariennir gan y Cynnig. Fodd bynnag, gallwch hawlio costau gofal plant Credyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw ofal plant ychwanegol y mae angen i chi dalu amdano. Gall hyn fod ar gyfer eich plentyn 3 neu 4 oed neu unrhyw blentyn arall yn eich cartref.

Os ydych yn cael rhan gofal plant Credyd Cynhwysol mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol neu waith i DWP ar GOV.UK.

Credydau Treth

Gallwch barhau i gael Credydau Treth ar yr un pryd â chael y Cynnig.

Mae Credydau Treth yn cael eu cyfrifo ar sail faint rydych yn ei ennill ac amcangyfrif o’ch costau gofal plant. Gall derbyn y Cynnig arwain at gynnydd yn eich incwm. Er enghraifft, os gallwch weithio mwy o oriau, neu ostyngiad yn eich costau gofal plant. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn llai o gredydau treth.

Os ydych yn cael Credydau Treth mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol neu waith i CThEM ar GOV.UK. Mae hyn yn cynnwys cyllid o’r Cynnig i helpu i dalu am gostau gofal plant.

Gofal Plant Di-dreth

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth a dal i dderbyn y Cynnig ar gyfer unrhyw oriau ychwanegol o ofal plant sydd eu hangen arnoch.

Os ydych yn cael Gofal Plant Di-dreth mae angen i chi ailgadarnhau eich manylion bob 3 mis.

Efallai y gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth i dalu am gostau ychwanegol fel bwyd, cludiant a ffioedd cadw.

Ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.

A allaf ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?

Gallwch, gallwch ddefnyddio hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y dydd yn ychwanegol at eu lleoliad addysg gynnar ar unrhyw ddiwrnod penodol yn ystod y tymor. Dim ond dau leoliad gofal plant cofrestredig y gallwch eu defnyddio yn ystod gwyliau ysgol.

Faint o ofal plant alla i gael mynediad iddo yn ystod gwyliau ysgol?

Bydd y Cynnig yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn, mae hyn yn cynnwys 9 wythnos o wyliau ysgol. Yn ystod 9 wythnos o’r gwyliau ysgol hyn gall rhieni wneud cais am hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu.

Yn ystod blwyddyn ysgol academaidd gallai rhieni fod â hawl i 39 wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu. Fodd bynnag, dim ond am 9 o’r 13 wythnos gwyliau ysgol y gall rhieni gael mynediad at ofal plant wedi’i ariannu. Felly, gallai rhieni fod yn gyfrifol am ffioedd sy’n ddyledus yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.

Gall rhieni ddewis pa gyfnodau gwyliau yr hoffent eu defnyddio, fodd bynnag mae wythnosau gwyliau wedi’u cyfyngu i 3 wythnos y tymor. Cynghorir rhieni i siarad â’u darparwr gofal plant i sicrhau eu bod yn gwybod faint o oriau y maent yn eu hawlio yn ystod rhai cyfnodau gwyliau.

Sut i wneud cais?

Gall rhieni cymwys sydd a plant yn cael lle mewn addysg cynnar o fis Ionawr 2023 ymlaen wneud cais am y Cynnig drwy’r system ddigidol genedlaethol yn https://gov.wales nawr. Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog, ar-lein y gellir ei gyrchu trwy liniadur, ffôn symudol neu lechen. Bydd angen i chi greu cyfrif i Borth y Llywodraeth i gychwyn eich cais.

Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich cais, bydd angen:

  • Tystysgrif geni eich plentyn
  • Prawf o gyfeiriad
  • Prawf o incwm y cartref neu gofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
  • Cyfeiriad cyflogaeth partner cartref gyda chod post
  • Cyflog wythnosol cyfartalog y cartref i chi a’ch partner
  • Cyflog blynyddol gros y cartref i chi a’ch partner cartref

Bydd angen i rieni cymwys sy’n dewis meithrinfa yn yr ysgol gwblhau ffurflen dderbyn a fydd yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad cartref gan dîm derbyn ysgolion ym mis Medi 2022, a dychwelyd i’ch ysgol o ddewis cyn y dyddiad cau. Yna, mae modd i rieni cymwys wneud cais am y Cynnig ar-lein gan ddefnyddio’r system ddigidol newydd yn seiliedig ar pryd mae’ch plentyn yn troi’n 3 oed.

Bydd angen i rieni cymwys sy’n dewis lleoliad gofal plant preifat sydd wedi’i gymeradwyo i dderbyn cyllid addysg cynnar gwblhau Ffurflen Blynyddoedd Cynnar 1 (cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol) a gwneud cais am y Cynnig ar wahân gan ddefnyddio’r system ddigidol newydd yn seiliedig ar pan fydd eich plentyn yn troi’n 3 oed. Anfonwch e-bost fis@torfaen.gov.uk os hoffech dderbyn restr o’r holl leoliadau gofal plant sydd wedi’u cymeradwyo.

Bydd y plant sy’n cael eu geni rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2020 yn cael eu hannog i ymgeisio am y cynnig drwy’r platfform digidol newydd ar ddechrau’r gwanwyn, dyddiadau i’w cadarnhau.

Bydd plant fydd yn cael eu geni rhwng 1 Ebrill a 30 Awst 2020 yn cael eu hannog i ymgeisio am y cynnig drwy’r platfform digidol newydd ar ddechrau’r haf, dyddiadau i’w cadarnhau.

Ewch i’n tudalen Facebook www.Facebook.com/TorfaenFIS i gael diweddariadau am y cynnig.

Pa mor hir mae’r broses ymgeisio yn ei gymryd?

Os ydych wedi cyflwyno cais, gallwch fel rheol ddisgwyl cydnabyddiaeth o’ch cais cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Sylwch na fydd cyllid ar gyfer y cynnig yn cychwyn nes bod dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau a bod y broses ymgeisio wedi’i chwblhau. Ni fydd cyllid yn ôl.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y cynnig gofal plant ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i’r Teulu Torfaen Rhadffôn 0800 0196 330 neu e -bostiwch fis@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 22/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ffôn: 0800 0196330

E-bost: fis@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig