Cylchoedd Chwarae / Cylchoedd Meithrin

Gall cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin dderbyn plant o 2 ½ oed ar sail sesiynol am ddim mwy na phedair awr y dydd. Maent yn cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol lle gall plant chwarae, dysgu a chymdeithasu gyda'i gilydd. Rhaid i bob cylch chwarae sy'n gweithredu am fwy na 2 awr y dydd gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Yn wahanol i grwpiau rhieni a phlant bach, nid yw rhieni'n aros gyda'u plant. Caiff y rhan fwyaf o gylchoedd chwarae eu cynnal gan bwyllgor o rieni ynghyd ag aelodau staff. 

Mae cylchoedd meithrin yn cynnig profiadau cyn-ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai yr hoffech i'ch plentyn fynd i gylch meithrin os mai eich bwriad yw addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eich plentyn. Fodd bynnag, nid oes rhaid i blant fod yn gallu siarad Cymraeg cyn dechrau yn y cylch meithrin. 

Mae rhai cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin wedi'u cofrestru i ddarparu addysg feithrin ran-amser wedi'i hariannu gan yr Awdurdod Lleol o'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 3 oed. 

I gael rhagor o fanylion am gylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn eich ardal chi, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Ffôn: 0800 0196330

E-bost: fis@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig