Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Uwchradd

Fel rheol, mae plant yn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y maen nhw'n dathlu eu pen-blwydd yn ddeuddeg oed (hy 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).

Derbyniadau Mis Medi 2024

Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn i ysgolion uwchradd ym mis Medi 2024 bellach wedi bod, ond gallwch dal fynd ati i gyflwyno cais hwyr.

Gallwch lawr lwytho’r Ffurflen Derbyn i Ysgol Uwchradd a’i dychwelyd atom yn school.admissions@torfaen.gov.uk  neu ei phostio at y Tîm Derbyn i Ysgolion, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Bydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau, sef 13 Tachwedd 2023 am 12 hanner dydd, yn cael eu hystyried yn geisiadau hwyr a byddant yn cael eu hystyried yn fisol yn unol â’r Polisi Derbyn.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu anfonwch e-bost i school.admissions@torfaen.gov.uk.

Cynnig lleoedd

Cewch gynnig lleoedd ddydd Gwener 1 Mawrth 2024. Cewch wybod beth yw canlyniad eich cais trwy’r dull hysbysu a ddewiswyd gennych.

Os nad ydych yn byw yn Nhorfaen bydd gofyn i chi gysylltu â’ch Awdurdod Lleol chi i gael cyngor ynglŷn â sut i ymgeisio.

Os ydych yn dymuno i’ch plentyn fynychu Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i gael gwybod y trefniadau derbyn angenrheidiol.

Mae manylion llawn trefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig fel darparu cludiant ysgol, i’w gweld yn y Llyfryn Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyn i Ysgolion

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig