Gadael eich Cartref mewn Argyfwng

Mewn rhai mathau o argyfyngau mae'n bosibl y bydd y gwasanaethau brys yn gofyn i chi adael eich cartref. Mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn eu cyngor. Fel arfer, byddech yn cael eich cludo i ganolfan dderbyn lle y gellir gofalu amdanoch nes ei bod yn ddiogel i chi ddychwelyd i'ch cartref.

Yn dibynnu ar y digwyddiad, mae'n bosibl y byddwch y penderfynu mynd i aros gyda ffrindiau neu berthnasau. Os felly, gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrth bersonél y gwasanaethau brys sy'n bresennol fel y gallant gyfrif amdanoch.

Os oes gennych chi unrhyw gymdogion oedrannus neu anabl, gwnewch yn siwr eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa a rhowch wybod i'r gwasanaethau brys.

Byddwch yn barod 

  • Fel rhan o'ch Cynllun Argyfwng, penderfynwch ymlaen llaw ar fannau y gallech fynd iddynt mewn argyfwng, sut y byddech yn eu cyrraedd a ble y byddech yn cyfarfod ag aelodau eraill y teulu.
  • Efallai y gofynnir i chi fynd i Ganolfan Dderbyn benodol neu efallai y byddwch yn penderfynu mynd i gartref ffrindiau neu berthnasau. Gwnewch yn siwr fod pob aelod o'ch teulu / grŵp yn gwybod i ble rydych yn mynd rhag ofn y cewch eich gwahanu.
  • Ewch i weld a oes angen cymorth ar eich cymdogion.

Eitemau y dylech fynd â nhw gyda chi

Os yw'n ddiogel ac os oes amser, ceisiwch gofio mynd â'r eitemau canlynol gyda chi os oes rhaid i chi adael eich cartref:

  • Pecyn argyfwng
  • Rhifau cyswllt mewn argyfwng
  • Meddyginiaeth a sbectol
  • Dogfennau (manylion yswiriant ac ati)
  • Dillad sbâr a blancedi
  • Arian parod/cardiau credyd
  • Allweddi (tŷ/car)
  • Bwydydd arbennig
  • Anifeiliaid anwes gyda thenynnau / cludyddion / basgedi

Cyn i chi adael, diffoddwch y cyflenwadau gwres, nwy, trydan a dŵr a chloi'r holl ddrysau a ffenestri.

Ysgolion

Os bydd argyfwng yn digwydd tra bo'ch plant yn yr ysgol, er y byddwch yn naturiol am fynd i'w casglu cyn gynted â phosibl, gwrandewch ar eich gorsaf radio leol, ac ewch i wefan a safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael cyngor a manylion ynghylch unrhyw drefniadau ar gyfer casglu plant.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig