Beth i'w wneud mewn argyfwng

Mewn argyfwng, ceisiwch aros yn ddigyffro a gwneud y canlynol:

  • Os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, ffoniwch 999 a gofynnwch am gymorth gan y Gwasanaethau Brys.
  • Ceisiwch wybodaeth gan y Gwasanaethau Brys yn lleoliad y digwyddiad neu drwy'r teledu a'r radio lleol.
  • Galwch ar eich cymdogion, yn enwedig y rhai hynny sy'n anabl neu'n oedrannus y mae'n bosibl na fyddant yn ymwybodol o'r sefyllfa.
  • Cofiwch y gallech gael eich cynghori i adael eich cartref neu aros yn eich cartref. Dylech bob amser geisio cyngor a gorchmynion gan y Gwasanaethau Brys.
  • Os oes angen i chi adael eich cartref, cofiwch fynd â rhai pethau penodol gyda chi fel meddyginiaeth, bwyd babanod ac ati.
  • Os oes unrhyw un wedi'i anafu, rhowch Gymorth Cyntaf nes bod cymorth meddygol proffesiynol yn cyrraedd.
  • Os yw'n ddiogel gwneud hynny, ewch i weld a oes unrhyw ddifrod yn eich cartref, gan gynnwys tanau, gollyngiadau ac ati, a byddwch yn barod i ddiffodd y cyflenwadau trydan, nwy neu ddŵr.
  • Os oes perygl o ollyngiad nwy neu ffrwydriad arall, peidiwch â throi unrhyw switshis trydan ymlaen, goleuo canhwyllau na chynnau matsis.

Os oes argyfwng ac y gofynnwyd i chi aros gartref, ewch i mewn gan gau'r holl ddrysau a ffenestri, a chau unrhyw awyrellau nad ydynt yn hanfodol.

Gwrandewch ar orsafoedd teledu neu radio lleol i gael mwy o wybodaeth a chyngor.

Teledu a Radio Lleol

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig