Eich Cartref

Gallwch helpu i gynllunio ar gyfer argyfwng trwy gymryd rhai camau syml a dod yn fwy cyfarwydd â'ch cartref.

Mae'n bwysig eich bod yn dysgu rhai pethau sylfaenol am eich cartref fel eich bod yn y sefyllfa orau posibl i ddelio ag argyfwng pe byddai'n digwydd.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:

  • Sut byddech chi'n diffodd eich cyflenwadau trydan, nwy a dŵr?
  • Ble mae'r llwybrau dianc yn eich cartref ac o gwmpas eich cartref?
  • A yw eich dogfennau pwysig yn cael eu cadw mewn cynhwysydd gwrthdan?
  • A ydych chi ac aelodau eraill y teulu yn gwybod ble y cedwir y dogfennau hyn pe byddai angen i chi adael eich cartref?
  • A yw eich dogfennau yswiriant yn gyfredol ac a oes gennych chi ddigon o yswiriant ar gyfer eich cartref a'i gynnwys?
  • A oes gennych chi rifau ffôn cyswllt ar gyfer teulu, ffrindiau ac ysgolion ar gael yn rhwydd pe byddai angen i chi adael eich cartref?

Yn ystod argyfwng, mae'r eitemau canlynol yn ddefnyddiol hefyd, felly gwnewch yn siwr eu bod ar gael a bod holl aelodau'r teulu yn gallu cael gafael arnynt yn rhwydd mewn argyfwng:

  • Pecyn Cymorth Cyntaf
  • Tortsh a batris sbâr
  • Rhestr cysylltiadau mewn argyfwng a llyfr nodiadau/pen a phensil
  • Radio a bwerir gan fatri
  • Dŵr potel rhag ofn nad yw dŵr y prif gyflenwad ar gael
  • Dillad cynnes a blancedi
  • Cyflenwadau o fwyd sy'n barod i'w fwyta
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig