Ymateb Cyngor Torfaen Mewn Argyfwng

Prif swyddogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ystod camau cynnar argyfwng yw cynnal a diogelu gwasanaethau arferol y cyngor, yn ogystal â chysylltu â'r gwasanaethau brys sy'n ymateb i'r digwyddiad a'u cynorthwyo.

Yn dibynnu ar natur a graddfa unrhyw ddigwyddiad, gall y cyngor fod yn hyblyg mewn swyddogaeth gefnogi. Bydd y cyngor yn ymwneud â digwyddiad pan fydd wedi cael gwybod amdano gan y gwasanaeth brys cychwynnol. Wrth i ddigwyddiad ddatblygu a symud i'r cam adfer, bydd y cyngor yn dechrau cymryd yr awenau oddi ar y gwasanaethau brys. Bydd hyn yn digwydd dim ond ar ôl i'r bygythiad uniongyrchol i les dynol, yr amgylchedd neu eiddo leihau. 

Er mwyn i'r cyngor ddarparu cymorth digonol, bydd yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau posibl cyn gynted â phosibl gan y gwasanaethau brys sy'n gysylltiedig. 

Bydd y cyngor yn ymwneud â digwyddiad mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Ailsefydlu'r gymuned
  • Gofal Cymdeithasol, Cymroth a Lles
  • Cymorth cwnsela a lles
  • Cyllid Brys
  • Darparu trefniadau tai brys
  • Canolfannau gorffwys mewn argyfwng sy'n darparu bwyd, diodydd a chymorth
  • Darparu cyfarpar a staff arbenigol
  • Dod o hyd i safleoedd ar gyfer corffdai a chanolfannau gorffwys

Mae Torfaen yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gwirfoddol sy'n rhan o Grŵp Gwirfoddolwyr Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent. Maent yn darparu cymorth a chyngor gan sefydliadau gwirfoddol arbenigol ar gyfer cynllunio at argyfwng ac ymateb i ddigwyddiadau.

Yn ogystal â darparu cymorth cymdeithasol, bydd y cyngor hefyd yn darparu mathau eraill o gymorth gan gynnwys cyngor ac adnoddau technegol, yr Amgylchedd ac Iechyd, cymorth logistaidd, a rheolaeth tymor hir ar y broses o adfer normalrwydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig