Llifogydd

Gall llifogydd yn Nhorfaen gael eu hachosi gan lawiad trwm am gyfnod hir, lefelau afonydd uchel, cwlfertau sydd wedi'u blocio a chawodydd trymion sy'n arwain at fflachlifogydd a dŵr wyneb yn cronni.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn deall yr effaith y gall llifogydd ei chael ar y gymuned a safleoedd busnes, ac mae'n ceisio sicrhau bod trefniadau effeithiol wedi'u sefydlu i gydlynu adnoddau er mwyn atal llifogydd ac ymateb i geisiadau gan y gymuned.

Gwnewch yn siwr eich bod yn barod

Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac yn annisgwyl, felly nawr yw'r amser i feddwl am beth fyddech chi'n ei wneud. Peidiwch ag aros nes bod llifogydd eisoes wedi digwydd. Po fwyaf trylwyr yr ydych wedi paratoi, yr hawsaf y bydd i chi ymdopi ag effeithiau llifogydd.

  • Ceisiwch ganfod pa mor debygol yw llifogydd yn eich ardal. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael mwy o wybodaeth.
  • Gwnewch yn siwr fod eich dogfennau yswiriant yn gyfredol a bod gennych chi ddigon o yswiriant yn achos llifogydd.
  • Ceisiwch gadw pethau gwerthfawr ac eitemau eraill sy'n bwysig i chi mewn cwpwrdd uchel neu i fyny'r grisiau.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod ble a sut i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr.
  • Ystyriwch brynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd i gyfeirio dŵr oddi wrth eich eiddo os oes perygl uchel o lifogydd.
  • Cadwch ddogfennau pwysig i fyny'r grisiau mewn man diogel.

Bagiau tywod

Nid yw’n ofyniad statudol i awdurdodau lleol ddarparu bagiau tywod i helpu trigolion preifat neu fusnesau amddiffyn yn erbyn llifogydd. Serch hynny, byddwn yn cynorthwyo ble bynnag y bo modd ar sail blaenoriaeth, gyda’r adnoddau sydd ar gael gennym.

Os ydych chi'n cael rhybudd llifogydd

  • Gwiriwch am rybuddion llifogydd yn eich ardal trwy wrando ar y gorsafoedd radio a theledu lleol, cysylltu â'r rhif ffôn rhybuddion llifogydd ar 0345 988 1188 neu fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Symudwch bethau gwerthfawr i fyny'r grisiau. Cadwch lygad ar anifeiliaid anwes a'u symud i fan diogel. Os yw'n bosibl, symudwch unrhyw gerbydau i dir uchel ac unrhyw eitemau eraill i fan diogel.
  • Rhybuddiwch eich cymdogion.
  • Os oes gennych chi fagiau tywod neu fyrddau llifogydd, rhowch nhw yn eu lle.
  • Byddwch yn barod i ddiffodd y cyflenwadau nwy a thrydan.
  • Os yw llifogydd yn debygol ar ôl iddi nosi, gwnewch y paratoadau tra'i bod hi'n dal yn olau.

Diogelwch yn ystod llifogydd

  • Gall llifogydd ladd, felly ceisiwch aros yn ddiogel bob amser. Peidiwch â cherdded na gyrru trwy lifddwr. Gall hyd yn oed ddŵr bas iawn sy'n llifo'n gyflym eich bwrw oddi ar eich traed a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn peri i'ch car arnofio.
  • Yn aml, mae llifddwr wedi'i halogi gan gemegion a charthffosiaeth, felly dylech osgoi dod i gysylltiad ag ef cymaint â phosibl a cheisio cyngor meddygol os ydych wedi dod i gysylltiad â llifddwr.
  • Peidiwch byth â cheisio nofio trwy lifddwr. Yn ogystal â'r ffaith y gallai'r dŵr fod wedi'i halogi, gallech hefyd gael eich sgubo ymaith neu eich taro gan rywbeth sy'n arnofio yn y dŵr.

Mae mwy o wybodaeth am y risgiau iechyd sy'n deillio o ddod i gysylltiad â llifddwr ar gael ar y safleoedd canlynol:

Glanhau

  • Cysylltwch â llinell ffôn argyfwng eich cwmni yswiriant a dilyn y cyngor ynghylch yr hyn y dylech ei wneud.
  • Pan fydd yn ddiogel, awyrwch eich tŷ trwy agor y drysau a'r ffenestri, ond cofiwch sicrhau diogelwch.
  • Cysylltwch â'ch cwmnïau nwy, trydan a dŵr er mwyn i'r rhain gael eu profi cyn i chi eu troi ymlaen eto.
  • Dilynwch gyngor eich cwmni yswiriant bob amser a gofynnwch beth y dylech ei wneud. Fel arfer, byddant yn anfon addaswr colled i asesu unrhyw ddifrod i'r eiddo a'i gynnwys.
  • Yna, dylai'r cwmni yswiriant drefnu i waredu eitemau sydd wedi'u halogi a chael eitemau newydd yn eu lle, a threfnu unrhyw waith sydd ei angen ar yr eiddo ar ôl y llifogydd.

Canllawiau Gwybodaeth ar Lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu canllawiau ar lifogydd a thempledi cynllunio ar gyfer llifogydd yn y cartref, busnesau, ffermydd, ysgolion a chymunedau.

Mae’r canllawiau yn cynnwys cyngor ymarferol ar gyfer paratoi am lifogydd ar hyn y dylid gwneud yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae’r canllaw hwn ar gael i’w lawr lwytho o dudalennau llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Perygl Llifogydd Pum Diwrnod

Mae rhagolygon llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru a Lloegr bellach ar gael gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn dangos, fesul sir, lle mae perygl o lifogydd dros y pum diwrnod nesaf. Mae'r rhagolwg pum diwrnod yn cael ei ddiweddaru o leiaf unwaith y dydd ac mae ar gael ar-lein ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch weld y Perygl Llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig