Gweithio mewn etholiad

Yn ystod etholiadau cenedlaethol, mae Cyngor Torfaen yn gyfrifol am reoli 70 o orsafoedd pleidleisio. Mae’r cyngor hefyd yn gyfrifol am gynnal is-etholiadau cynghorau sir a chymuned pan fo angen.

Mae Swyddog Llywyddu a Chlerc Pleidleisio ymhob gorsaf bleidleisio. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod gweithdrefnau pleidleisio yn cael eu dilyn yn gywir.

Mae'r tîm etholiadau yn chwilio am bobl frwdfrydig ac uchel eu cymhelliant i ymuno â banc o Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio y gellir galw arnynt pan fydd etholiad ar fin cael ei gynnal.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi eich cyd-drigolion i arfer eu hawl ddemocrataidd, neu i ddarganfod yr hyn sydd ei angen i gynnal etholiad, cysylltwch â ni.

  • Mae Swyddogion Llywyddu yn cael £195 a Chlercod Pleidleisio yn cael £138.75, ynghyd â chostau teithio
  • Cewch eich talu am yr hyfforddiant
  • Fe gewch gymorth ychwanegol ar y diwrnod pleidleisio

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Caroline Genever-Jones ar caroline.genever-jones@torfaen.gov.uk neu 01495 766074

 

Louise Day, Swyddog Llywyddu

Swyddog Llywyddu - Louise Day

Rwyf wedi bod yn Swyddog Llywyddu ers dwy flynedd ac rwyf wedi gweithio mewn dau etholiad ac isetholiad. Mae rôl Swyddog Llywyddu yn debyg iawn i'r clerc pleidleisio ond os oes gan bleidleisiwr ymholiad neu broblem, maent yn dod atoch chi. Rydych yn cael hyfforddiant cynhwysfawr a gallwch alw ar dîm o arolygwyr sydd wrth law os oes angen cymorth. Mae’r rôl yn gofyn i chi weithio rhwng 6am a 10pm ar ddiwrnod pleidleisio ond mae’n syndod pa mor gyflym y mae’r amser yn mynd heibio, yn enwedig os ydych chi’n mwynhau sgwrsio gyda phobl. Y cyngor gorau gen i fel Swyddog Llywyddu yw gwnewch yn siŵr bod gennych got gynnes neu sgarff.

 

Ellie Bradbury, Clerc Pleidleisio

Clerc Pleidleisio - Ellie Bradbury

Rwyf wedi bod yn glerc pleidleisio ers pum mlynedd, a weithio mewn pum etholiad. Mae'n ddiddorol gweld faint o waith yw cynnal etholiad ac mae’n braf teimlo eich bod wedi chwarae rhan yn helpu i sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth. Gwaith y Clerc Pleidleisio yw cynorthwyo'r Swyddog Llywyddu gyda’r dyletswyddau ar Ddiwrnod yr Etholiad. Gall hyn gynnwys paratoi offer yr orsaf bleidleisio, helpu i ddosbarthu papurau pleidleisio i aelodau’r cyhoedd, sicrhau eu bod yn bwrw eu pleidleisiau’n gudd a’u rhoi nhw yn y blwch pleidleisio cywir. Y cyngor gorau gen i yw sicrhau eich bod yn dod â digon o fwyd a diod gyda chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/08/2023 Nôl i’r Brig