Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd 2024

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) yn cael eu hethol yn ddemocrataidd pob pedair blynedd.

Bydd yr etholiad nesaf ar ddydd Iau, 2 Mai 2024.

Rôl Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol gan y cyhoedd i ddal y Prif Gwnstabl a'r heddlu i gyfrif. I bob pwrpas, mae hyn yn gwneud yr heddlu'n atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o asiantaethau ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau bod un dull o atal a lleihau troseddu.

Mae mwy o wybodaeth am rôl y Comisiynydd a'u cyfrifoldebau yn choosemypcc.org.uk

Amserlen digwyddiadau allweddol

Amserlen digwyddiadau allweddol
DigwyddiadDyddiad

Hysbysiad o Etholiad

25 Mawrth 2024

Dosbarthu cardiau pleidleisio

26 Mawrth 2024

Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau

5 Ebrill 2024 (4pm)

Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd, hysbysiad o enwau asiantau a lleoliadau’r gorsafoedd pleidleisio

8 Ebrill 2024

Dosbarthu pleidleisiau post

15 Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

16 Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost

17 Ebrill 2024 (5pm)

Cyhoeddi Hysbysiad o Bleidlais

22 Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy

24 Ebrill 2024 (5pm)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (TAC)

24 Ebrill 2024 (5pm)

Dyddiad pleidleisio

2 Mai 2024 (7am tan 10pm)

Gwirio a chyfrif

3 Mai 2024 (9am)

Cofrestru i bleidleisio

I gael pleidleisio mewn etholiad CHTh mae'n rhaid i chi fod:

  • Wedi eich cofrestru i bleidleisio a bod 18 oed neu drosodd ar ddiwrnod yr etholiad (‘diwrnod pleidleisio’)
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, Y Gymanwlad neu'r UE
  • Yn byw mewn cyfeiriad yn Lloegr neu Gymru (ac eithrio Llundain)
  • Heb eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein trwy www.gov.uk/register-to-vote

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos Ddydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi eisoes wedi eich cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol:

Pleidleisio trwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio trwy'r post yn yr etholiad hwn, ewch i www.gov.uk/apply-postal-vote i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost, neu i ganslo neu ddiwygio pleidlais bost bresennol yn yr etholiad hwn yw 5pm Dydd Mercher 17 Ebrill.

Rheolau newydd am drin pleidleisiau post

Mae rheolau newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer trin pleidleisiau post:

  • Bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau post gall unigolyn eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
  • Ni chaniateir i chi gyflwyno mewn na phum pecyn pleidlais bost ar ran etholwyr eraill yn ogystal â'ch un chi (cyfanswm o 6)
  • Os bydd person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidlais bost ar ran etholwyr eraill bydd y pleidleisiau post i gyd (heblaw eu pleidlais eu hunain) yn cael eu gwrthod
  • Bydd angen i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidleisiau post gwblhau ffurflen ‘dychwelyd dogfennau pleidleisio trwy'r post’
  • Ni allwn bellach dderbyn pleidleisiau post sy'n cael eu gadael yn y blwch llythyrau yn swyddfeydd y cyngor
  • Bydd unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu gadael mewn unrhyw un o adeiladau'r cyngor heb i ffurflen ‘dychwelyd dogfennau pleidleisio trwy'r post’ gael ei chwblhau yn cael eu gwrthod
  • Rydym yn argymell bob y pleidleisiau post yma'n cael eu dychwelyd atom ni trwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosibl cyn y diwrnod pleidleisio

Pleidleisio trwy ddirprwy

Os hoffech chi i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i www.gov.uk/apply-proxy-vote i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy yw 5pm Dydd Mercher 24 Ebrill.

Os ydych, ar ôl 5pm ar 24 Ebrill, yn canfod nad ydych chi'n gallu pleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau meddygol neu waith, efallai byddwch gennych hawl i wneud cais am bleidlais frys trwy ddirprwy.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol am wybodaeth bellach

Adnabod pleidleiswyr

Mae'n ofyniad nawr i chi gyflwyno ffurf dderbyniol o ddogfennaeth adnabod wrth i chi bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau'r comisiynydd heddlu a throsedd.

Am fwy o wybodaeth , gan gynnwys y mathau o ID a dderbynnir a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr, ewch at ein tudalen ID Pleidleiswyr

Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu (SCAH)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi ei benodi'n Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu, gwelwch Fwrdeistref Sirol Caerffili am wybodaeth bellach.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig