Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio

Bob pum mlynedd, mae angen i awdurdodau lleol adolygu dosbarthiadau etholiadol a gorsafoedd pleidleisio lleol i sicrhau eu bod yn gyfleus ac yn hygyrch i bleidleiswyr.

Ym mis Ionawr 2024, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cynlluniau i wneud newidiadau i 14 o orsafoedd pleidleisio a saith dosbarth etholiadol yn Nhorfaen.

Fe fydd y gofrestr etholiadol yn cael ei hailgyhoeddi ar 1 Chwefror, ac anfonwyd llythyron at bob aelwyd y mae’r newidiadau yn effeithio arni.

Dyma’r newidiadau:

Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio
EnwRheswm dros yr adolygiadDewis amgen
Neuadd Eglwys Sant Paul  Nid yw'r adeilad a'r llwybr yn gwbl hygyrch Adleoli i Ganolfan Hamdden Blaenafon sy'n hygyrch, yn cynnig mannau parcio a goleuadau da. Dim dewis arall.
Neuadd y pensiynwyr Talywaun Dim parcio a mynediad cyfyngedig i bleidleiswyr anabl Symud i Glwb Rygbi Talywaun sy’n cynnig goleuadau da, mannau parcio ac mae’n hygyrch. Yr unig opsiwn sydd ar gael.
Gabby’s Diner Dim parcio na mynediad i'r anabl Symud i Ganolfan Gymunedol Bryn Seion a chyfuno’r dosbarthiadau pleidleisio. Yr unig opsiynau sydd ar gael.
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Pontnewynydd Mae'r adeilad allan o'r ardal Nid oes unrhyw adeiladau eraill ar gael
Tafarn yr Unicorn Nid yw'r adeilad bellach ar gael i'w logi Symud i adeilad Unite, sydd â mannau parcio da ac mae’n hygyrch iawn. Bydd yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad.
Neuadd Eglwys Santes Hilda   Mae'r orsaf bleidleisio ar yr 2il lawr, ac nid yw'r lifft yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid yw'r llawr gwaelod ar gael Symud i Neuadd Gymunedol Tref Gruffydd. 
Neuadd Ambiwlans Sant Ioan Mae hon yn orsaf ddeuol ond mae’n gyfyngedig iawn. Symud i Eglwys Lighthouse a Panteg House sy’n bodloni’r gofynion.
Ysgol Gynradd Coed Eva Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion.  Symud i’r Caban Gwyn a fydd yn dod yn orsaf ddeuol.  
Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion. Gorsafoedd deuol yn symud i’r Pwerdy a Cheeky Monkeys
Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion Wedi derbyn ceisiadau i ddychwelyd yr orsaf dros dro yn neuadd yr eglwys i'r ysgol Symud i adeilad cymunedol ar dir yr ysgol. Mae gan yr adeilad fynediad ar wahân i’r ysgol a gall aros ar agor drwy’r dydd ar y diwrnod pleidleisio.
Cyfuno cofrestri BB a BC yn Neuadd y Mileniwm Garndiffaith   Un gofrestr i wella effeithlonrwydd
Cyfuno cofrestri CC a CB    Un gofrestr yn lle dwy
Wedi symud CP o Neuadd Mount Pleasant i Ganolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd a chyfuno dosbarthiadau   Un gofrestr yng Nghanolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd i leihau nifer y gorsafoedd sydd eu hangen.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig