Newidiadau i bleidleiswyr yn etholiadau seneddol a CHTh

Gwnaed newidiadau i'r weithdrefn bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Nid yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau seneddol nac etholiadau lleol yng Nghymru.

Bydd nawr angen i bleidleiswyr ddangos ID â llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau seneddol, is-etholiadau ac etholiadau CHTh.

Dysgwch pa fathau o ID sy’n dderbyniol yma: Mathau o ID Ffotograffig a Dderbynnir

Os nad oes gennych ID a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID Pleidleisiwr am ddim. Gelwir hyn yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

Gallwch wneud cais yma: Gwneud Cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr

Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

  • Bydd angen adnewyddu ceisiadau ar lein i bleidleisio drwy ‘r post bob tair blynedd.
  • Cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy’r post y gellir eu cyflwyno yn adeiladau'r cyngor neu orsafoedd pleidleisio, i gynnwys eich un chi ac uchafswm o bump arall
  • Gofyniad i lenwi ffurflen ymdrin â phleidleisiau drwy’r post pan fydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu dychwelyd â llaw. Os na chaiff ffurflenni eu llenwi, bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu gwrthod.

Mae'r newidiadau hefyd yn golygu y gall pleidleiswyr Prydeinig sy'n byw dramor bleidleisio yn etholiadau'r DU, waeth pa mor hir y maen nhw wedi byw dramor. Erbyn hyn, gall pleidleiswyr dirprwyol weithredu ar ran uchafswm o ddau etholwr domestig a dau bleidleisiwr tramor yn unig.

Rhaid eich bod wedi cofrestru cyn y gallwch bleidleisio mewn unrhyw etholiadau neu i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: Cofrestru i bleidleisio

Diwygiwyd Diwethaf: 12/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig