Sut i Bleidleisio

Gallwch bleidleisio mewn etholiadau dim ond os yw eich enw'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol a'ch bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad dan sylw.  

Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio

Gallwch fynd i'ch gorsaf bleidleisio leol a phleidleisio yno os ydych ar y gofrestr etholwyr.  

Tua thair neu bedair wythnos cyn etholiad byddwch yn derbyn eich cerdyn pleidleisio yn y post. Ar y cerdyn hwn fe welwch fanylion pryd, ble a sut i bleidleisio. Mae'n haws os byddwch chi'n mynd â'r cerdyn hwn gyda chi pan fyddwch chi'n pleidleisio, er y gallwch chi bleidleisio hebddo.

Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc Pleidleisio yn gofyn ichi ddweud eich enw a'ch cyfeiriad ar lafar. Y cadarnhad llafar hwn sydd yn cadarnhau mai chi yw pwy yr ydych chi’n ddweud ydych chi. Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug, a gall arwain at erlyniad.

Yna byddwch yn derbyn papur pleidleisio a fydd yn nodi faint o ymgeiswyr y gallwch chi bleidleisio amdanynt. Yn syml, cymerwch y papur pleidleisio i fwth pleidleisio a rhowch groes nesaf at yr ymgeisydd neu'r ymgeiswyr yr hoffech chi bleidleisio drostynt.

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu mae’n bosib na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfri. Plygwch y papur pleidleisio er mwyn cuddio eich pleidlais, dangoswch y papur wedi’i blygu i’r Clerc cyn ei rhoi yn y blwch pleidleisio. Nid oes rhaid i chi ddweud pwy wnaethoch bleidleisio drosto/drostynt wrth unrhyw un.

I wybod lle mae eich gorsaf bleidleisio leol, cysylltwch ag Isadran Etholiadau'r Cyngor ar 01495 762200, trwy anfon neges e-bost at voting@torfaen.gov.uk, neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl.

Pleidleisio trwy'r Post

Gallwch bleidleisio trwy'r post os na allwch neu os na ddymunwch fynd i orsaf bleidleisio.  

I ymgeisio i bleidleisio trwy'r post mewn etholiad penodol neu bob etholiad yn y dyfodol, rhaid i chi lenwi ffurflen a'i dychwelyd i'r Cyngor. Gallwch lawrlwytho copi o'r Ffurflen Gais Pleidleisio trwy'r Post o wefan Fy Mhleidlais i, neu gallwch gael copi trwy gysylltu â'r Isadran Etholiadau neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl neu'r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yng Nghwmbrân.  Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post nawr.

Cofiwch ddychwelyd y ffurflen wedi'i llofnodi yn y post neu â llaw, gan fod rhaid i ni gael eich llofnod ar bapur.

Dychwelwch eich ffurflen i'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB fel ei bod yn cyrraedd o leiaf un ar ddeg diwrnod gwaith cyn yr etholiad.

Pwy all bleidleisio trwy'r post?

Gall unrhyw un bleidleisio trwy'r post, cyn belled â'u bod nhw ar y gofrestr etholwyr.  

Mae pleidleisio trwy'r post yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd ar eu gwyliau ar ddiwrnod yr etholiad, pobl sydd wedi symud tŷ (gweler hefyd sut i gofrestru os ydych wedi symud tŷ), pobl na allant fynd yn gorfforol i orsaf bleidleisio neu unrhyw un sydd am ddewis pleidleisio trwy'r post!

Sut mae pleidleisio drwy’r post yn gweithio?

Bydd eich papur pleidleisio, ynghyd â datganiad pleidlais drwy'r bost, yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cofrestredig tua wythnos cyn etholiad.

Bydd angen i chi ddarparu'ch dyddiad geni a'ch llofnod ar y datganiad, yna cwblhewch eich pleidlais yn y ffordd arferol trwy farcio croes a dychwelyd y datganiad a'r papur pleidleisio yn yr amlen a dalwyd ymlaen llaw.

Yna byddwn yn cymharu eich dyddiad geni a'ch llofnod yn erbyn y manylion a ddarparwyd yn flaenorol ar eich ffurflen gais i atal twyll ac i amddiffyn eich pleidlais. Os oes rheswm gwirioneddol pam na allwch chi ddarparu'ch llofnod arferol, efallai y cewch eich hepgor ond bydd angen i chi barhau i roi eich dyddiad geni

Os byddwch yn penderfynu cofrestru fel pleidleisiwr drwy’r post, ni allwch, dan unrhyw amgylchiadau, bleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Fodd bynnag, fe allwch fynd â’ch pleidlais drwy’r post â llaw i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio trwy Ddirprwy

Mae pleidleisio trwy ddirprwy yn golygu cael rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod wyneb yn wyneb yn eich gorsaf bleidleisio arferol neu drwy'r post.  

Gall unrhyw un fod yn ddirprwy i chi cyn belled â'u bod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau'r DU a'u bod yn fodlon pleidleisio ar eich rhan.

Sut wyf yn ymgeisio i bleidleisio trwy ddirprwy?

I ymgeisio i bleidleisio trwy ddirprwy, rhaid i chi lenwi ffurflen a'i dychwelyd i'r Cyngor. Gallwch wneud Cais i bleidleisio trwy ddirprwy yma neu gallwch gael ffurflen trwy gysylltu â'r Isadran Etholiadau, neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl neu'r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yn Llyfrgell Cwmbrân.  

Llenwch y ffurflen a gwnewch yn siwr eich bod yn ei llofnodi. Gall eich dirprwy ei llofnodi hefyd, ond nid oes rhaid iddynt.  

Dychwelwch eich ffurflen i'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Canolfan Ddinesig, Pontypŵl, NP4 6YB fel ei bod yn cyrraedd o leiaf chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ymgeisio?

Rhaid i'ch dirprwy fynd i'ch gorsaf bleidleisio leol i bleidleisio. Os na all eich dirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallant ymgeisio i bleidleisio trwy'r post. Gallant ymgeisio i wneud hyn hyd at 11 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad. Gall eich swyddfa cofrestru etholiadol roi mwy o fanylion i chi am hyn. Bydd eich dirprwy yn cael cerdyn dirprwy, a fydd yn dweud wrthynt ble a phryd i bleidleisio.

Rhaid i chi roi gwybod i'ch dirprwy sut dymunwch iddynt bleidleisio ar eich rhan, er enghraifft, pa ymgeisydd neu blaid.  

Os ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch bleidleisio yno os nad yw eich dirprwy wedi gwneud felly eisoes neu os nad yw wedi ymgeisio i bleidleisio trwy'r post i chi.

Pwy all bleidleisio trwy ddirprwy?

Gallwch ymgeisio am bleidlais trwy ddirprwy cyn belled â'ch bod ar y gofrestr etholiadol. Pan ymgeisiwch am bleidlais trwy ddirprwy, rhaid i chi roi rheswm. Gallwch ymgeisio am bleidlais trwy ddirprwy os:

  • na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio am un etholiad penodol, er enghraifft, os ydych i ffwrdd ar wyliau
  • oes gennych gyflwr corfforol sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • yw eich cerdyn cyflogaeth yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • yw eich presenoldeb ar gwrs addysg yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
  • ydych yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor
  • ydych yn was y Goron neu'n aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi

Ac eithrio os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi gael rhywun i gefnogi eich cais a chadarnhau bod eich rheswm dros ymgeisio i bleidleisio trwy ddirprwy yn ddilys. Darllenwch y nodiadau sy'n dod gyda'r ffurflen gais i weld a oes rhaid i chi gael rhywun i gefnogi eich cais a phwy all gefnogi eich cais.  

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i bleidleisio trwy ddirprwy yw 6 diwrnod gwaith cyn etholiad fel arfer. Fodd bynnag, os cewch argyfwng meddygol 6 diwrnod cyn diwrnod etholiad, gallwch ymgeisio i bleidleisio trwy ddirprwy brys os yw'r argyfwng yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio yn bersonol.

Pleidleiswyr ifanc

Erbyn hyn gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, er bod dal angen i chi fod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.

Gall unrhyw un dros 14 oed gofrestru ar y gofrestr etholiadol i sicrhau eu bod yn gallu pleidleisio mewn etholiadau ar ôl iddynt droi’n 16 oed.

Fel pleidleisiwr ifanc, fe'ch anogir i wirio'r gofrestr i sicrhau eich bod wedi cofrestru, oherwydd, yn ôl pob tebyg bydd rhywun arall wedi cwblhau'r 'ffurflen ymholiad cartref' a anfonwyd i'ch cartref. Os nad yw eich enw ar y rhestr neu os ydych chi'n ansicr a ydych wedi cofrestru, gallwch gofrestru ar-lein.

Mae cofrestru i bleidleisio yn bwysig oherwydd mae'n profi ble rydych chi'n byw, sy'n rhywbeth hanfodol os ydych am wneud cais am fenthyciad i fyfyriwr, cyfrif banc, neu hyd yn oed ffôn symudol.

Cofrestru i bleidleisio os ydych yn fyfyriwr

Os ydych chi'n fyfyriwr gyda chyfeiriad cartref a chyfeiriad amser tymor, gallwch gofrestru i bleidleisio o'r ddau gyfeiriad, cyhyd â'u bod hwy ddim yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Yn etholiadau lleol y cyngor, gallwch bleidleisio yn y ddau le. Mewn etholiad cyffredinol neu etholiad Ewropeaidd, rhaid i chi ddewis pleidleisio mewn un lle yn unig.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/01/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig