Pob diwrnod, rydym yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'n bywydau. Gelwir y gallu i wneud penderfyniadau yn alluedd meddyliol. Gall pobl gael anawsterau wrth wneud rhai penderfyniadau naill ai trwy'r amser neu ar rai adegau. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn brin o alluedd meddyliol o ganlyniad i:
- Anabledd dysgu
- Salwch tebyg i dementia
- Problem iechyd meddwl
- Anaf a gafwyd i'r ymennydd
- Strôc
Cyflwynodd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 broses i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol asesu a oes gan berson alluedd i benderfynu drostyn nhw eu hunain, a fframwaith i ddiogelu unigolion os ystyrir eu bod yn analluog. Gelwir y fframwaith hwnnw y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Mae'r Ddeddf wedi ei hadolygu yn y cyfamser a bydd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 yn dod i rym. Bydd yn cyflwyno fframwaith newydd y Trefniadau Diogelu Amddiffyn Rhyddid (TDARh).
Bydd y trefniadau diogelu newydd yn dal i amddiffyn yr unigolyn ond byddan nhw'n symleiddio'r broses.
Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
O dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019, bydd Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn dod yn fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer awdurdodi amddifadu rhyddid i'r rhai nad ydynt yn gallu cydsynio i'w trefniadau gofal.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd DARh yn cael ei ohirio y tu hwnt i oes y senedd hon. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw benderfyniad mewn perthynas â gweithredu DARh yn cael ei wneud gan y senedd nesaf, ac nid yw hynny’n debygol o fod tan o leiaf 2025.
Tan hynny, fframwaith Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (DARh) fydd y fframwaith cyfreithiol, sy'n amddiffyn pobl nad ydynt yn gallu cydsynio i drefniadau gofal os yw’r trefniadau hynny'n eu hamddifadu o'u rhyddid.
Beth yw'r prif newidiadau?
- Bydd DARh yn cyflwyno proses newydd ar gyfer awdurdodi diogeliadau amddiffyn rhyddid ac mi fydd yn berthnasol mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, llety â chymorth, cartrefi domestig a sefydliadau addysgol.
- Bydd DARh yn gludadwy, yn amodol ar adolygiadau penodol.
- Bydd staff ysbyty neu ofal cymdeithasol yn cwblhau asesiadau ac yn eu hanfon ymlaen at weithiwr proffesiynol arall nad yw'n gysylltiedig â gofal y person, a fydd wedyn yn awdurdodi’r diogeliadau amddifadu rhyddid.
- Bydd DARh yn berthnasol i unrhyw un 16+ neu’n hŷn sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso
- Gellir atgyfeirio at Broffesiynolyn Galluedd Meddyliol Cymeradwy (PGMC).
Gallwch ddarganfod mwy am y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar wefan Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd) neu, fe allwch siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol.
Yma, fe gewch ddolen at yr Ymgynghoriad Cymraeg a Saesneg
- Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid | LLYW.CYMRU (yn agor mewn tab newydd)
- Newidiadau i God Ymarfer MCA a gweithredu’r DARh | GOV.UK
Mae fersiynau hawdd eu darllen a fideos gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gweld isod
- Newidiadau ir gyfraith a chanllawiau ynglŷn a gwneud eich penderfyniadau eich hun (fersiwn hawdd ei ddarllen) | GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)
- Getting it right: Regulations and plans for Wales | GOV.WALES (yn agor mewn tab newydd)
- Overview of the Mental Capacity (Amendment) Act 2019 and the new Liberty Protection Safeguards | LLYW.CYMRU (yn agor mewn tab newydd)
- Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) yng Nghymru/Liberty Protection Safeguards (LPS) in Wales | YouTube (yn agor mewn tab newydd)
Neu gwrandewch ar ein Podlediad a gynhyrchwyd gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen