Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n gyfrifol am ofalu am, a thrin oedolion sy’n byw yn y gymuned, sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol a hirdymor.

Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnwys Meddygon, Nyrsys, Seicolegwyr, Therapyddion Galwedigaethol a Gweithwyr Cymdeithasol.

Mae yna 2 Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) wedi eu lleoli yn Uned Tal-y-garn, Ysbyty Sirol Pont-y-pŵl, sy’n gofalu am De a Gogledd y Fwrdeistref, a hynny i bobl 18 i 65 oed.

Mae yna Dîm Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (TIMPH) wedi ei leoli yn Nhŷ Siriol, Ysbyty Sirol Pont-y-pŵl, i bobl dros 65 oed.

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2