
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein disgyblion
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Byddem wrth ein bodd i glywed eich barn! Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk Mae eich barn yn dylanwadu ar fwydlenni a ryseitiau’r dyfodol, felly mae pob sylw yn cyfrif. Mae eich llais yn bwysig!
Dewis Ein Dietegydd
Mae ein Cyri Tato Melys a Sbigoglys yn llawn blas a daioni maethlon. Mae tato melys a sbigoglys yn darparu cyfoeth o faetholion pwysig, gan gynnwys fitaminau A a C, potasiwm a ffibr, ac mae'r cyfuniad o baprika a sbeisys cyri ysgafn yn cyfrannu haearn a sinc i gefnogi disgyblion actif sy'n tyfu.
Mae'r saws cartref yn llawn cynhwysion lliwgar, gan gynnwys winwns, bricyll a phupurau cymysg, gan ychwanegu melystra naturiol a chynyddu cynnwys ffrwythau a llysiau y pryd iach hwn. Caiff ei weini gyda'n reis llysiau maethlon, sy'n gyfuniad 50/50 o reis gwyn a grawn cyflawn ac sy'n cynnwys dogn lawn o lysiau cymysg maint plentyn, gan ddarparu ffibr ychwanegol yn ogystal ag egni sy'n rhyddhau'n araf, i danio boliau'r disgyblion trwy gydol y prynhawn.
Mae'r corn melys sy'n dod gyda'r pryd yn ychwanegu hyd yn oed mwy o ddaioni llysiau, gan helpu disgyblion i weithio tuag at eu 5-y-dydd, ac mae'r bara naan a'r reis yn creu pryd boddhaol a chytbwys.
Mae'r cyri planhigion blasus hwn yn lliwgar, yn faethlon ac yn llawn blas, gan ddarparu cyfuniad o lysiau, ffibr a maetholion hanfodol.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Tyfwyr o Gymru
Lle bynnag y bo'n bosibl, rydyn ni'n defnyddio llysiau a dyfwyd yng Nghymru ar gyfer ein prydau ysgol. Mae defnyddio cynnyrch gan gyflenwyr o Gymru yn cefnogi ffermwyr, busnesau a swyddi lleol o fewn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol, ac yn cyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a milltiroedd bwyd is o bosibl. Gall argaeledd amrywio gan ddibynnu ar y tymor, amodau'r tywydd a chyflenwad y farchnad, ond cynnyrch o Gymru yw'r dewis sydd orau gennym pryd bynnag y bydd ar gael ac yn bodloni ein safonau ansawdd.
Prif Gwrs Effaith Garbon Isaf
Aseswyd ôl troed carbon ein ryseitiau i gyd gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Y pryd hwn, sydd â 0.54 kg o CO₂e i bob cilogram o fwyd a weinir, sydd â'r ôl troed carbon isaf o blith unrhyw brif gwrs ar ein bwydlen.
O'i gymharu â'r Cyri Keema sydd ar gael ar yr un diwrnod, mae'r rysáit hon yn golygu tua 19 gwaith yn llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae dewis prydau ar sail cynhwysion carbon is yn un ffordd o leihau effaith amgylcheddol bwyta bwyd, ac felly mae hwn yn opsiwn ardderchog i ddisgyblion a theuluoedd sydd eisiau cefnogi system fwyd fwy cynaliadwy trwy ddewisiadau dietegol bach, ymarferol.