Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)
Fruit crumble served with custard

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Gwych a blasus, hoffwn i gael hwn eto 'fory" Sophie, Ffordd Blenheim

"Hyfryd a blasus" Terry, Ffordd Blenheim

"Mae jyst mor dda!!" Brooklyn, Penygarn

"Mae'n flasus ac yn iach" Danielle, Penygarn

"Roeddwn i'n ei hoffi'n fawr iawn" Summer, Penygarn

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein Crymbl Aeron Haf ac Afalau yn bwdin bendigedig sy'n llawn o flas y ffrwythau ac mae'n helpu'r disgyblion gyda'u 5 y dydd. Mae'n llawn afalau ac aeron haf suddlon, ac yn ffynhonnell naturiol felys ar gyfer fitaminau, mwynau a ffibr, sy'n golygu bod y maeth cystal â'r blas.

Mae ein topin crymbl euraidd wedi'i wneud gyda blawd a cheirch, gan ychwanegu ffibr i gefnogi treulio iach a rhoi gwead crensiog sy'n boddhau. Caiff y pwdin cysurlon hwn ei weini gyda chwstard llyfn, hufennog wedi'i wneud o laeth ffres, ac felly mae hefyd yn cyfrannu calsiwm gwerthfawr ar gyfer esgyrn cryf a dannedd iach, ynghyd â sinc i gefnogi twf a system imiwnedd iach.

Maer' ffefryn clasurol hwn yn gyfuniad iach o ffrwythau, ceirch a chwstard hufennog, ac yn gydbwysedd perffaith rhwng cysur, blas a daioni maethlon.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Daw'r llaeth lled-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard o Gymru, gan gefnogi ffermwyr Cymru, busnesau lleol a swyddi yn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Mae defnyddio cynhyrchion llaeth sy'n agosach at ble maen nhw'n cael eu bwyta yn gallu cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, a chynnal y safonau uchel o ran ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain a ddisgwylir yn ein prydau ysgol.