
Pam ddewison ni’r pryd hwn
NEWYDD AR GYFER 2026!!!! Ydych chi’n ddisgybl sy’n rhoi tro ar y pryd hwn am y tro cyntaf?
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth. Rhowch wybod i’r cogydd yn eich ysgol a/neu danfonwch neges at louise.gillam@torfaen.gov.uk
Mae eich llais yn bwysig!
Dewis Ein Dietegydd
Rydym yn gofyn yn rheolaidd i’n disgyblion roi adborth am ein bwydlenni, ac mae nifer wedi dweud wrthym y bydden nhw’n hoffi’r hyblygrwydd o fedru dewis opsiwn llysieuol rhai diwrnodau, heb ymrwymo i fwydlen gwbl lysieuol. Mae ein Lasagne Sbigoglys a Llysiau’n ffordd flasus a maethlon o wneud hynny.
Yn llawn llysiau, mae’r pryd hwn yn rhoi amrywiaeth o fitaminau, mwynau a ffibr, gan helpu disgyblion i gynnal diet iachus, cytbwys. Mae sbigoglys yn gynhwysyn arbennig o faethlon, gan gyfrannu maetholion gan gynnwys haearn, yn ogystal ag amrywiaeth o fitaminau a mwynau sy’n cefnogi twf a lles.
Mae’r saws gwyn a chaws ar ben, wedi ei wneud â llaeth hanner sgim a chaws cheddar, yn gwneud y pryd hwn yn ffynhonnell dda o galsiwm, gan gefnogi esgyrn a dannedd iach yn ystod blynyddoedd pwysig tyfu.
Mae’r pasta’n rhoi carbohydradau ar gyfer rhyddhau egni’n raddol, gan helpu disgyblion i ganolbwyntio trwy gydol y prynhawn.
I helpu disgyblion i weithio tuag at eu 5 y dydd, rydym yn eu hannog i fwynhau’r lasagne gyda 2 ddogn o ffrwythau neu salad, gan greu pryd cytbwys sy’n faethlon a blasus.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Dewis Effaith Carbon Is
Mae ôl-troed carbon ein prydau i gyd wedi ei asesu’n annibynnol gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae gan ein Lasagne Sbigoglys a Llysiau llai na chwarter o ôl-troed carbon y lasagne cig sydd ar gael yr un diwrnod. Mae dewis mwy o brydau sy’n seiliedig ar blanhigion yn cael ei gydnabod fel ffordd o leihau effaith amgylcheddol bwyd, gan wneud hyn yn opsiwn gwych i ddisgyblion fwynhau pryd blasus tra’n cefnogi system bwyd cynaliadwy.
Cefnogi Cynhyrchwyr Cymreig
Mae ein lasagne yn cael ei wneud gyda llaeth hanner sgim Cymreig a chaws, a ddefnyddir yn y saws gwyn a chaws sydd ar ei ben. Mae cyrchu cynhwysion o gyflenwyr Cymreig yn helpu i gefnogi ffermwyr, busnesau a swyddi lleol, gan gyfrannu’r un pryd at gadwyni cyflenwi byrrach ac efallai lleihau’r pellter y mae bwyd yn cael ei gludo o’r fferm i’r plât.