
Pam ddewision ni’r pryd hwn
Dewis Ein Disgyblion
"Mae’r pryd cyfan yn anhygoel" Osian, Padre Pio
"Mae’r tatws rhost a’r grefi’n hyfryd" Felicity, Ysgol Mair a’r Angylion
"Mae’n flasus ac yn felys" Cole, Nant Celyn
Mae’n hyfryd, yn enwedig y grefi" Teegan, Ysgol Gynradd Nant Celyn
"Mae’n flasus iawn" Dominic, Ysgol Gynradd Nant Celyn
Dewis Ein Dietegydd
Mae ein twrci rhost yn ffynhonnell naturiol o brotein, gan helpu disgyblion i deimlo’n llawn trwy’r prynhawn a darparu maetholion pwysig fel haearn a sinc yr un pryd, sy’n cefnogi twf, datblygiad a lles.
Mae pob pryd yn dod gyda llysiau a dewis o datws rhost ac wedi’u berwi, gan helpu disgyblion i fwynhau pryd cytbwys sy’n cyfrannu ffibr, fitaminau a mwynau gwerthfawr.
Mae ein tatws rhost poblogaidd yn cael eu pobi yn y ffwrn heb fraster ychwanegol, gan ddarparu holl flas a mwynhad cinio rhost traddodiadol a chefnogi proffil maeth iachach.
Yn iachus, yn faethlon ac yn llawn blas, mae’r clasur ysgol yma’n rhoi’r egni a’r maetholion y mae eu hangen ar ddisgyblion i gefnogi prynhawn prysur o ddysgu.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Gostyngiadau wedi eu Targedu mewn Defnydd o Ynni
Fel rhan o’n hymdrechion i leihau effaith amgylcheddol ein gwasanaeth arlwyo, rydym wedi newid o ddefnyddio twrci wedi’i rewi i dwrci ffres. Mae hyn yn lleihau’r amser coginio o ryw awr ym mhob ysgol, gan helpu i leihau’r defnydd o ynni a chynnal diogelwch ac ansawdd bwyd yr un pryd. Rydym yn parhau i adolygu ryseitiau, cynhwysion a dulliau coginio er mwyn gweld cyfleoedd pellach i leihau’r defnydd o ynni heb gyfaddawdu ar ddiogelwch, maeth neu ansawdd prydau.