Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Rôl hufen iâ mafon a fanila gyda dewis o ffrwythau

Raspberry and vanilla arctic roll with fruit selection

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

“Anhygoel!" Arlo, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion

Dewis Ein Dietegydd

Mae Rôl Hufen Iâ yn bwdin ysgol poblogaidd sy'n cyfuno hufen iâ hufennog gyda haenen o sbwng meddal. Trwy gynnwys y sbwng, mae'r pwdin hwn yn cyfrannu mwy o faetholion fel haearn a sinc na hufen iâ ar ei ben ei hun, ac mae’r cynhwysion llaeth hefyd yn cyfrannu calsiwm, sy'n bwysig ar gyfer datblygiad arferol esgyrn a dannedd iach.

Caiff y pwdin hwn ei weini gyda dogn o ffrwythau, gan helpu disgyblion i fwyta un o'u 5 y dydd ac ychwanegu fitaminau, mwynau a ffibr gwerthfawr at y pryd.

Dyma bwdin poblogaidd sy’n gyfuniad llwyddiannus o ffrwythau, llaeth a sbwng, ac mae’n cynnig cydbwysedd blasus rhwng mwynhad a maeth i orffen cinio ysgol iach.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Lleihau Plastig Untro ac Ailgylchu Mwy

Yn rhan o'n hymrwymiad i leihau gwastraff o becynnu, mae'r Rôl Hufen Iâ hon yn dod mewn pecyn cardfwrdd, gan helpu i leihau faint o blastig sy'n cael ei ddefnyddio yn ein gwasanaeth arlwyo. Yna, gellir ailgylchu'r pecyn trwy ffrydiau gwastraff priodol, ochr yn ochr â llawer o'r deunyddiau pecynnu eraill a ddefnyddir yn ein gwasanaeth prydau ysgol.

Trwy ddewis cynhyrchion sy’n cael llai o effaith o ran pecynnu, a chefnogi ailgylchu lle bynnag y bo modd, rydyn ni’n cymryd camau ymarferol i leihau gwastraff a gwella cynaliadwyedd ein gwasanaeth bwyd.