
Pam ddewison ni'r pryd hwn
Dewis ein Disgyblion
"Roedd yn hyfryd iawn, mwy o flas na chyw iâr" Tyreece, Ysgol Gynradd Garnteg
Dewis ein Dietegydd
Mae ein Ffiled Llysieuol Quorn yn ddewis blasus a maethlon sy'n seiliedig ar blanhigion, gan gynnig ffynhonnell wych o brotein a ffibr sy'n isel mewn brater dirlawn. Yn flasus, yn foddhaol ac yn llawn daioni, maen nhw'n ddewis ardderchog i ddisgyblion sydd am fwynhau pryd heb gig fel rhan o ddeiet cytbwys.
Gyda dewis hael o lysiau tymhorol, mae'r pryd lliwgar hwn yn darparu fitaminau, mwynau a ffibr gwerthfawr i gefnogi twf iach a lles. Gall disgyblion hefyd fwynhau tatws wedi'u berwi a'n tatws rhost poblogaidd, sy'n cael eu rhostio yn y ffwrn heb fraster ychwanegol i gael holl flas y ffefryn yma.
Gan gyfuno cynhwysion iach â blas gwych, mae'r pryd cytbwys hwn yn darparu'r egni a'r maetholion sydd eu hangen ar ddisgyblion i aros yn llawn, canolbwyntio a bod yn barod ar gyfer prynhawn o ddysgu. Dewis llysieuol maethlon sy'n foddhaol ac yn flasus.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Dewis Effaith Carbon Is
Mae'r holl opsiynau ar ein bwydlen wedi cael eu hasesu ar gyfer ôl troed carbon gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae pryd ffiled Quorn yn gysylltiedig â thua 80% llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr na'r pryd selsig porc sydd ar gael ar yr un diwrnod.
Mae prydau sy'n seiliedig ar broteinau sy'n dod o blanhigion fel arfer yn cael effaith amgylcheddol is na'r rhai sy'n seiliedig ar broteinau anifeiliaid. I ddisgyblion a theuluoedd sy'n dymuno gwneud newidiadau bach, ymarferol tuag at ddeiet mwy cynaliadwy, mae pryd ffiled Quorn yn cynnig dewis amgen carbon sylweddol is tra'n parhau i ddarparu cinio ysgol maethlon, boddhaol a phleserus.