Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Ffiled Quorn (Fe) gyda stwffin, tato rhost sych a thatws wedi'u berwi, llysiau a grefi

Quorn fillet (Ve) with stuffing, seasonal vegetables, roast potatoes, boiled potatoes and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Roedd yn neis iawn, mwy o flas na chyw iâr go iawn" Tyreece, Ysgol Gynradd Garnteg

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein Ffiledi Quorn Llysieuol yn opsiwn blasus sy'n seiliedig ar blanhigion, ac yn ffynhonnell ar gyfer protein a ffibr ac yn naturiol isel mewn braster dirlawn. Maen nhw'n llawn blas a maeth, ac yn ddewis hyfryd heb gig sy'n cefnogi diet cytbwys ac iach.

Daw'r pryd iachus hwn gyda dewis o lysiau tymhorol wedi'u paratoi'n ffres, gan ddarparu fitaminau, mwynau a ffibr gwerthfawr i helpu i gefnogi cyrff sy'n tyfu a ffyrdd iach o fyw. Gall disgyblion hefyd fwynhau tatws wedi'u berwi ysgafn a'n tatws rhost poblogaidd, sy'n cael eu rhostio'n sych yn y ffwrn heb unrhyw fraster ychwanegol, gan roi holl ddaioni crensiog cinio rhost traddodiadol gyda thro iachach.

Mae'r pryd maethlon hwn yn cyfuno protein planhigion, llysiau lliwgar a charbohydradau sy'n darparu egni, gan helpu i danio boliau'r disgyblion a'u ffocws trwy gydol y prynhawn.

Ffefryn llysieuol cysurlon, sy'n bryd cytbwys a llawn blas ac yn profi bod bwyta maethlon yn gallu bodloni'r bol a bod yn flasus dros ben.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Dewis Effaith Garbon Is

Mae ôl troed carbon yr holl opsiynau ar ein bwydlenni wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae gan y pryd ffiled Quorn lai na hanner yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r dewis arall sydd ar gael ar yr un diwrnod.

Yn gyffredinol, mae gan fwydydd sy'n seiliedig ar broteinau planhigion lai o effaith amgylcheddol na'r rhai sy'n seiliedig ar broteinau anifeiliaid. I ddisgyblion a theuluoedd sy'n awyddus i wneud newidiadau bach, ymarferol tuag at ddiet mwy cynaliadwy, mae pryd ffiled Quorn yn cynnig opsiwn sy'n sylweddol is o ran carbon ond yn dal i gynnig cinio ysgol maethlon sy'n bodloni'r bol.