Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Selsig porc gyda sglodion, pys a chorn melys neu ffa pob

Pork sausage served with chips, peas and sweetcorn or baked beans

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Iym, Iym!" Matthew, Henllys

"Hollol anhygoel" Noah, Henllys

"10 seren oherwydd mae’n dda" Amelia, Nant Celyn

"Rwy'n ei garu siwd gymaint ac mae'r cogydd yn anhygoel" Esther, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion

"Mae'n anhygoel, 10 allan o 10!" Riley, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim

"Oherwydd rwy'n hoffi sut mae Kely yn eu gwneud nhw" Harry, Ysgol Gynradd Padre Pio

Dewis Ein Dietegydd

Dyma ffefryn poblogaidd ymhlith disgyblion. Dewiswyd ein selsig yn arbennig ac maen nhw wedi cael eu datblygu ar gyfer ysgolion, gyda lefelau is o fraster a halen ond blas bendigedig. Cânt eu gweini gyda bara 50/50 gwyn a chyflawn, sy'n golygu bod y pryd hwn yn darparu ffibr ychwanegol i gefnogi treuliad iach a bodloni boliau'r disgyblion yn hirach.

Law yn llaw â'n sglodion ffwrn crensiog, a baratoir ar y safle gyda llai o fraster a braster dirlawn nag opsiynau eraill sydd wedi'u ffrio'n draddodiadol, mae'r pryd cysurlon hwn yn cynnig digon o flas a maeth cytbwys. Mae ffa pob â llai o halen a llai o siwgr yn ychwanegu ffibr a phrotein planhigion gwerthfawr, ac mae'r dewis o lysiau sy'n dod gyda'r pryd yn helpu i roi hwb i fitaminau a mwynau ac yn annog disgyblion i fwynhau mwy o lysiau yn rhan o'u cinio.

Mae'r pryd hwn yn cyfuno protein, ffibr a charbohydradau sy'n rhyddhau’n araf, gan roi'r egni sydd ei angen i danio boliau'r disgyblion a'u ffocws trwy gydol y prynhawn.

Fersiwn iach o ffefryn clasurol, sy'n cynnig blas bendigedig, maeth cytbwys a digon o fwynhad amser cinio.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Mae ein selsig yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi busnesau Cymru, swyddi lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol ehangach. Mae defnyddio cynnyrch gan gyflenwyr o Gymru yn helpu i gryfhau'r economi leol ac yn gallu cyfrannu at bellteroedd cludo byrrach a llai o filltiroedd bwyd, gan gynnal safonau uchel o ran ansawdd, diogelwch bwyd a'r gallu i olrhain.