Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Lwyn o borc gyda thato rhost a thato wedi’u berwi, dewis o lysiau a grefi

Pork loin served with roast and boiled potatoes, veg selection and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Blasus iawn" Mia, Ffordd Blenheim

"Bawd i fyny, blasus" Olivia S, Ffordd Blenheim

"Dwlu ar hwn!" Olivia O, Ffordd Blenheim

"Blasus dros ben" Levi, Ffordd Blenheim

"Anhygoel" Ally, Coed Eva

Dewis Ein Dietegydd

Mae’r porc rhost suddlon yn ddewis blasus a maethlon, ac yn darparu protein o ansawdd uchel ynghyd â maetholion hanfodol gan gynnwys haearn, sinc a fitaminau B, sy'n helpu i gefnogi twf, egni a llesiant trwy gydol y diwrnod ysgol.

Gall ein disgyblion hefyd fwynhau tato wedi'u berwi ysgafn a'n tato rhost sy'n boblogaidd bob tro, sy'n cael eu rhostio'n sych yn y ffwrn heb unrhyw fraster ychwanegol, gan greu holl ddaioni crensiog cinio rhost traddodiadol.

Mae'r pryd cytbwys hwn yn cyfuno protein braster isel, llysiau a charbohydradau startsh sy'n bodloni'r bol, ac yn rhoi egni sy'n rhyddhau'n araf sydd ei angen ar ddisgyblion i gynnal eu hegni a'u ffocws trwy gydol y prynhawn.

Cinio rhost clasurol sy'n llawn blas, maeth a holl gysur ffefryn traddodiadol.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Safonau Gwarant Fferm y DU

Daw ein porc rhost o ffermydd sydd â Gwarant Tractor Coch y DU, sy'n rhoi safonau sicrwydd wedi'u harchwilio'n annibynnol sy'n cynnwys llesiant anifeiliaid, diogelwch bwyd, y gallu i olrhain ac amddiffyniad amgylcheddol. Mae'r ardystiad hwn yn rhoi'r hyder fod y porc wedi'i gynhyrchu a'i brosesu i safonau cydnabyddedig ar draws y gadwyn gyflenwi, a hefyd yn cefnogi ffermwyr y DU a sector amaethyddol ehangach Prydain.

Cefnogi Tyfwyr o Gymru

Lle bynnag y bo'n bosibl, rydyn ni'n defnyddio llysiau a dyfwyd yng Nghymru ar gyfer ein prydau ysgol. Mae caffael ar gynnyrch gan gyflenwyr o Gymru yn helpu i gefnogi ffermio, busnesau a swyddi lleol, ac yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant. Mae argaeledd cynnyrch ffres yn amrywio yn ôl y tymor a chyflenwad y farchnad, ond rydyn ni'n defnyddio llysiau o Gymru pryd bynnag maen nhw ar gael a phan fo'n briodol, er mwyn bodloni ein gofynion ansawdd a gofynion ein bwydlenni.