Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Cyri Keema gyda reis llysiau sawrus, corn melys a bara naan

Keema curry served with savoury vegetable rice, sweetcorn and naan bread

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf?

Byddem wrth ein bodd i glywed eich barn!

Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk

Mae eich barn yn dylanwadu ar fwydlenni a ryseitiau’r dyfodol, felly mae pob sylw yn cyfrif. Mae eich llais yn bwysig!

Dewis Ein Dietegydd

Cyri cartref blasus â sbeisys ysgafn a fydd yn apelio at amrywiaeth eang o ddisgyblion ac yn darparu digon o ddaioni maethlon ar yr un pryd. Mae'r pryd cysurlon hwn wedi'i wneud â chyfuniad o friwgig cig eidion o ansawdd da a briwgig Quorn, ac mae'n naturiol gyfoethog mewn protein ac yn darparu maetholion pwysig, gan gynnwys haearn a sinc, sy'n cefnogi twf, llesiant a'r gallu i ganolbwyntio trwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae ein saws cartref yn cyfuno paprika, sbeisys cyri ysgafn, winwns, bricyll melys a phupurau cymysg lliwgar, gan ychwanegu blas cyfoethog a rhoi hwb i nifer y ffrwythau a'r llysiau. Yn ganlyniad, gweinir pryd perffaith gytbwys sy'n gysurlon ac yn llawn daioni.

Caiff y pryd hwn ei weini gyda'n reis llysiau maethlon, sy'n gyfuniad 50/50 o reis gwyn a grawn cyflawn ac sy'n cynnwys dogn plentyn llawn o lysiau cymysg , ac mae'n darparu ffibr ychwanegol yn ogystal ag egni sy'n rhyddhau'n araf i helpu i danio boliau'r disgyblion a'u gallu i ganolbwyntio trwy'r prynhawn. Mae'r cyri lliwgar hwn yn llawn protein, ffibr, llysiau a maetholion hanfodol, ac mae'n ffefryn iachus sy'n darparu blas gwych ac egni sy'n para.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Safonau Gwarant Fferm y DU

Gwneir elfen cig eidion y pryd hwn gan ddefnyddio briwgig cig eidion sydd â Gwarant Tractor Coch y DU. Mae ardystiad Tractor Coch yn darparu safonau sicrwydd wedi'u harchwilio'n annibynnol sy'n cynnwys llesiant anifeiliaid, diogelwch bwyd, olrhain bwyd a diogelu'r amgylchedd ar draws y gadwyn gyflenwi. Trwy gaffael ar gig eidion â gwarant o Brydain, rydym yn cefnogi ffermwyr y DU ac yn darparu hyder yn nharddiad ac ansawdd y cynhwysion a ddefnyddir yn ein prydau ysgol.

Rysáit Effaith Garbon Is

Cydnabyddir bod cig eidion yn gynhwysyn cymharol ddwys o ran nwyon tŷ gwydr. Er mwyn lleihau effaith amgylcheddol y pryd hwn, rydym wedi ail-greu'r rysáit i gynnwys 40% o friwgig Quorn ochr yn ochr â 60% o friwgig cig eidion. Mae'r addasiad hwn yn cadw blas, gwead a rhinweddau maethlon y rysáit ac yn lleihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol tua 39% o'i gymharu â rysáit wedi'i wneud yn gyfan gwbl gyda briwgig cig eidion.

Trwy gynnwys cynhwysion carbon is lle bo hynny'n briodol, rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau ôl troed amgylcheddol ein bwydlenni ac yn parhau i ddarparu prydau maethlon a phoblogaidd ar gyfer ein disgyblion ar yr un pryd.