
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Blasus", Rory Ysgol Panteg
"Roedd yn flasus dros ben" Toby a Jacob, Ysgol Panteg
Dewis Ein Dietegydd
Mae pysgod yn rhan bwysig o ddiet iach, cytbwys, ac yn darparu protein o ansawdd uchel yn ogystal â fitaminau a mwynau hanfodol sy'n cefnogi twf a datblygiad. Dyna pam mae pysgod ar fwydlenni ein hysgolion yn rheolaidd, gan helpu disgyblion i fwynhau’r bwyd maethlon hwn ac elwa arno.
Rydyn ni’n pobi ein bysedd pysgod a'n sglodion yn y ffwrn ar y safle yn hytrach na'u ffrio, gan helpu i leihau’r braster a’r braster dirlawn yn y pryd a darparu'r blas y mae plant yn ei garu o hyd. Mae'r pryd yn cael ei weini gyda ffa pob, gan gynnig ffibr a phrotein planhigion ac rydyn ni’n defnyddio’r rhai sydd â llai o siwgr a llai o halen bob tro.
Mae dogn lliwgar o bys a chorn melys neu salad yn ychwanegu fitaminau, mwynau a ffibr gwerthfawr, ac yn helpu disgyblion i fwyta mwy o lysiau a dod yn agosach at eu targed o 5 y dydd.
Dyma bryd poblogaidd sy’n cyfuno protein, carbohydradau a llysiau, ac mae’n darparu'r maetholion a'r egni sydd eu hangen ar ddisgyblion i gadw’n actif, i ganolbwyntio ac i fod yn barod i ddysgu trwy gydol y diwrnod ysgol.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Pysgota Cynaliadwy
Yn rhan o'n hymrwymiad i gaffael ar fwyd mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy, mae'r bysedd pysgod hyn yn dod o bysgodfeydd sydd wedi'u hardystio i safon Marine Stewardship Council (MSC). Mae ardystiad MSC yn helpu i sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu cynaeafu ar lefelau cynaliadwy a bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli mewn ffordd sy'n lleihau effeithiau amgylcheddol ac yn cefnogi iechyd ecosystemau morol yn y tymor hir.
Trwy ddewis pysgod wedi’u hardystio gan MSC, rydyn ni’n cefnogi arferion pysgota cynaliadwy wedi'u gwirio'n annibynnol gan helpu i sicrhau bod digon o fwyd môr ar gael i genedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn gallu mwynhau pryd maethlon a chefnogi system fwyd sy’n fwy cynaliadwy ar yr un pryd.