Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Taten bob, ffa pob a chaws gyda salad (Ll)

Jacket potato, beans and cheese with salad

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Mae'n arbennig o dda gyda'r holl flasau" Lilly, Nant Celyn

"Dwlu ar hwn" Larna, Ysgol Gynradd Penygarn

"Rwy'n ei hoffi oherwydd ei fod yn fy nghynhesu " Jaxon, Padre Pio

"Mae’n obsesiwn” Anita, Ysgol Gynradd Penygarn

"Rwy'n ei hoffi oherwydd mae’n ddewis da bob tro os nad ydych chi eisiau cinio poeth, ac mae'n flasus iawn" Megan, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein tato pob yn ffefrynnau maethlon sy’n bodloni’r bol, ac yn cael eu gweini gyda'r croen arnynt i wneud y mwyaf o'u cynnwys ffibr, gan helpu i gefnogi treulio iach a chadw disgyblion i deimlo'n llawnach am gyfnod hirach. Mae tato hefyd yn darparu egni sy'n llawn carbohydradau i danio’r dysgu a’r chwarae trwy gydol y diwrnod ysgol.

Caiff y pryd hwn ei orchuddio â chaws ac mae’n ffynhonnell ardderchog o galsiwm, sy'n hanfodol i ddatblygu esgyrn a dannedd cryf. Mae ein ffa pob yn cyfrannu ffibr a phrotein planhigion ychwanegol a bob amser yn cael eu dewis o fathau sydd â llai o siwgr a llai o halen, gan helpu i gefnogi diet cytbwys a chadw’r blas bendigedig.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Mae'r tato a'r caws Cheddar a ddefnyddir yn y pryd hwn yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i gefnogi amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru, yn cyfrannu at yr economi leol, ac yn hyrwyddo cadwyn gyflenwi dryloyw y gellir ei holrhain. Gall defnyddio cynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu’n agos hefyd helpu i leihau pellteroedd cludiant a sicrhau bod cynhwysion o ansawdd uchel yn cyrraedd ein ceginau.