Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Lasagne cartref gyda bara garlleg, salad, brocoli a moron

Homemade lasagne served with garlic bread, salad, broccoli and carrots

Pam ddewision ni’r pryd hwn

Dewis ein Disgyblion

"Mae’r cyfan yn dda oherwydd y blas, rwy’n llawn cyffro pan fydd lasagne ar gael" Lowri, Ysgol Panteg

"Mae’r caws yn braf a hufennog" Florence, Ysgol Panteg

"Mae’n anhygoel ac mae llawer o flas" Seren, Ysgol Panteg

"Da, mae llawer o flasau gwahanol sy’n mynd yn dda gyda’i gilydd" Jacob, Ysgol Panteg

Dewis Ein Dietegydd

Oeddech chi'n gwybod bod maetholion fel haearn a sinc yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi iechyd, lles a gallu plant i ddysgu? Mae haearn yn helpu i gario ocsigen o amgylch y corff ac yn cyfrannu at swyddogaeth wybyddol arferol, tra bod sinc yn cefnogi twf, datblygiad ac imiwnedd cyffredin.

Mae ein lasagne cartref blasus yn ddewis maethlon, wedi'i wneud gyda chymysgedd o friwgig eidion heb lawer o fraster a briwgig Quorn fel ffynhonnell wych o haearn a sinc. Wedi'i weini gyda bara garlleg, mae'r pryd hwn yn un o'r opsiynau cryfaf ar y fwydlen ar gyfer y maetholion pwysig hyn.

Mae hefyd yn ffynhonnell dda o galsiwm, diolch i'r llaeth hanner sgim sydd yn y saws gwyn hufennog a'r caws, gan helpu i gynnal esgyrn a dannedd iach.

Er mwyn helpu disgyblion i weithio tuag at eu 5 y dydd, rydym bob amser yn eu hannog i ychwanegu 2 ddarn o lysiau neu salad, gan wneud hwn yn bryd cytbwys a maethlon sy'n cefnogi twf iach, dysgu a lles.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cynhwysion o ansawdd, o Ffynonellau Cyfrifol

Mae elfen cig eidion ein lasagne yn cael ei wneud gyda briwgig eidion Gwarant Tractor Coch y DU. Mae safonau Tractor Coch yn darparu sicrwydd wedi'i archwilio'n annibynnol sy'n cwmpasu meysydd fel lles anifeiliaid, diogelwch bwyd, gallu i olrhain a diogelu'r amgylchedd. Trwy gael cig eidion â gwarant yn y DU, rydym yn cefnogi ffermwyr Prydain gan roi hyder yn nharddiad ac ansawdd y cynhwysion a ddefnyddir yn ein prydau ysgol.

Effaith Carbon Is, Yr Un Blas Gwych

Mae cig eidion yn cael ei gydnabod fel cynhwysyn bwyd sy'n allyrru nwyon tŷ gwydr cymharol uchel. I helpu i leihau effaith amgylcheddol y rysáit hwn, rydym wedi ail-lunio ein lasagne i gynnwys 40% briwgig Quorn ochr yn ochr â 60% briwgig eidion. Mae gan Quorn ôl troed carbon sylweddol is na chig eidion, ac amcangyfrifir y bydd y newid syml hwn yn lleihau ôl troed carbon elfen briwgig y pryd tua 39%, tra'n cynnal y blas, gwead ac ansawdd maethol y mae disgyblion yn eu mwynhau.

Cefnogi Cynhyrchwyr Cymreig

Mae ein lasagne hefyd yn cynnwys llaeth hanner sgim a chaws wedi eu cynhyrchu yng Nghymru yn y saws gwyn a'r gaenen. Mae prynu cynhyrchion llaeth o Gymru yn helpu i gefnogi ffermwyr, busnesau a chyflogaeth leol, gan gyfrannu hefyd at gadwyni cyflenwi byrrach ac o bosibl lleihau milltiroedd bwyd sy'n gysylltiedig â chludo cynhwysion.