Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Quorn barbeciw cartref (V) gyda reis llysiau, creision tortilla, pys neu lysiau cymysg

Homemade BBQ Quorn served with vegetable rice, tortilla chips, peas or mixed vegetables

Pam ddewison ni'r pryd hwn

Dewis ein Disgyblion

"Hollol WYCH! Mae'r ddau yn blasu'n HYFRYD" Ruby, Ysgol Gynradd Ponthir

"Maen nhw'n wych gyda'i gilydd ac yn blasu'n anhygoel" Lauren, Ysgol Gynradd Ponthir

"Da a neis a hyfryd" Maila, Ysgol Gynradd Pen-y-garn

"Roedd yn wych, rydw i wrth fy modd" Harley, Ysgol Gynradd Pen-y-garn

"Bendigedig" Florence, Ysgol Panteg

Dewis ein Dietegydd

Dewis myglyd blasus a boddhaol, mae ein Quorn Barbeciw'n dod mewn saws cyfoethog, llawn blas wedi'i wneud gyda thomatos, pupur a winwns ar gyfer lliw, blas a daioni ychwanegol. Mae Quorn yn ffynhonnell wych o brotein a ffibr, gan wneud hwn yn bryd iach y gall disgyblion ei fwynhau fel rhan o ddeiet cytbwys.

Wedi'i weini gyda chreision tortilla a'n reis llysiau poblogaidd - cymysgedd maethlon o reis gwyn a grawn cyflawn sy'n cynnwys dogn llawn o lysiau cymysg - mae'r pryd hwn yn rhoi egni graddol i gadw disgyblion yn llawn a'u helpu i ganolbwyntio trwy gydol y prynhawn.

Ynghyd â phys a llysiau cymysg, mae'r pryd lliwgar a blasus hwn yn llawn blas ac yn helpu disgyblion ar eu ffordd i gael eu 5 y dydd. Dewis llysieuol gwych sy'n boblogaidd gyda llysieuwyr a bwytawyr cig fel ei gilydd.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cynhwysyn Effaith Carbon Llai

Mae gan friwgig Quorn ôl troed carbon sylweddol is na briwgig eidion. Trwy gynnwys briwgig Quorn mewn ryseitiau, mae modd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol o gymharu â phrydau tebyg cyfatebol wedi'u gwneud yn gyfan gwbl gyda chig eidion.Mae hyn yn ffordd effeithiol o leihau effaith amgylcheddol pryd tra'n cynnal ei ansawdd maethol, ei flas a'i boblogrwydd gyda disgyblion.