Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Cyw iâr barbeciw cartref gyda reis llysiau, creision tortilla, pys a llysiau cymysg

Homemade BBQ chicken served with vegetable rice, tortilla chips, peas and mixed vegetables

NEWYDD AR GYFER 2026!! Pam ddewison ni'r pryd hwn

Ydych chi’n ddisgybl sy'n rhoi cynnig ar y pryd yma am y tro cyntaf? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth.

Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu danfonwch neges at louise.gillam@torfaen.gov.uk

Mae eich llais yn bwysig!

Dewis ein Dietegydd

Mae cyw iâr, ffynhonnell naturiol o brotein o ansawdd uchel heb lawer o fraster, yn dod mewn saws barbeciw cartref blasus ar gyfer pryd sy'n llawn blas a daioni maethol. Yn isel mewn braster a braster dirlawn, mae cyw iâr yn darparu maetholion allweddol i gefnogi disgyblion sy'n tyfu tra'n helpu i'w cadw'n llawn.

Gyda chreision tortilla wedi'u pobi yn y ffwrn, mae'r pryd poblogaidd hwn yn darparu carbohydradau ar gyfer yr egni graddol y mae ei angen i ganolbwyntio trwy gydol y prynhawn.

Mae ein reis llysiau lliwgar wedi'i wneud gyda chymysgedd maethlon 50/50 o reis gwyn a grawn cyflawn ac mae'n cynnwys llysiau cymysg maint addas i blentyn, gan gynyddu ffibr, fitaminau a mwynau ym mhob plât. Gyda phys a llysiau cymysg, mae'r pryd hwn yn cyfrannu hyd yn oed mwy o ddaioni trwy lysiau, gan helpu disgyblion ar eu ffordd tuag at gael 5 darn y dydd.

Ffefryn iachus, cytbwys sy'n cyfuno blas gwych, protein a digon o lysiau ar gyfer cinio ysgol boddhaol.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Safonau Gwarant Ffermydd DU

Mae ein cyw iâr bob amser yn cynnwys Gwarant Tractor Coch y DU felly mae’n cyrraedd safonau gydag arolygiadau annibynnol mewn perthynas â thrin ieir, diogelwch bwyd a'r gallu i olrhain. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi ffermwyr y DU sy'n wynebu amseroedd heriol.

Llysiau Cymreig

Lle mae dewis i ddefnyddio llysiau Cymreig ar ein bwydlenni, rydym yn gwneud hynny. Dyma'r dewis a ffefrir bob amser, fodd bynnag, nid yw cyflenwad/argaeledd cyfyngedig bob amser yn caniatáu hyn.