
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
“Roedd yn blasu'n hyfryd, rwy'n hoffi'r stwff tu mewn" Trystan, Ffordd Blenheim
“Mae'n flasus dros ben, rwy'n hoffi'r blas" Eleanor, Ffordd Blenheim
“Anhygoel!" River, Ffordd Blenheim
“Hyfryd ac yn felys ac yn blasu fel winwns" Elliott, Mair a'r Angylion
“Blasus a Chawslyd" Obhran, Mair a'r Angylion
“Hyfryd a Chawslyd" George, Mair a'r Angylion
Dewis Ein Dietegydd
Mae ein Selsig Morgannwg yn ffefryn o Gymru ac yn boblogaidd dros ben. Maen nhw’n cyfuno caws Cheddar aeddfed, tato, cennin a winwns i greu pryd llysieuol blasus sy'n tynnu dŵr o'r dannedd ac yn llawn daioni. Mae'r llysiau wedi'u cynnwys yn glyfar ym mhob brathiad, ac felly mae'n ffordd flasus o fwynhau mwy o gynhwysion planhigion yn rhan o ddiet cytbwys.
Mae'r caws Cheddar aeddfed yn ffynhonnell werthfawr o galsiwm a phrotein, gan helpu i gynnal esgyrn cryf, dannedd iach a chyrff sy'n tyfu.
Ochr yn ochr â thato potsh, mae'n darparu egni sy'n llawn carbohydradau i helpu disgyblion i gadw'n actif ac i ganolbwyntio trwy gydol y diwrnod ysgol.
Mae dogn lliwgar o foron a brocoli yn rhoi hwb i'r pryd gyda ffibr, fitaminau a mwynau, gan helpu disgyblion i gyrraedd eu targedau ffrwythau a llysiau dyddiol. Mae’r pryd maethlon, blasus hwn sy’n llenwi’r bol, yn enghraifft berffaith o fwyd ysgol iach wedi'i wneud yn dda.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Dewis Effaith Garbon Is
Mae ôl troed carbon yr holl opsiynau ar ein bwydlenni wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae dewis selsig Morgannwg yn hytrach na selsig porc yn lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r pryd tua 75%.
Fel arfer, mae prydau sy'n seiliedig ar blanhigion yn bennaf yn cael effaith amgylcheddol is na'r rheiny sydd â mwy o gynhyrchion anifeiliaid. I ddisgyblion a theuluoedd sydd eisiau gwneud newidiadau bach, ymarferol tuag at ddiet mwy cynaliadwy, mae selsig Morgannwg yn cynnig dewis carbon is ond yn cadw'r blas, yr ansawdd a'r gwerth maethlon a ddisgwylir mewn pryd ysgol.
Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru
Mae ein bara yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan helpu i gefnogi busnesau Cymru, swyddi lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol ehangach. Gall defnyddio cynhyrchion o ffynonellau sy'n agosach at ble maen nhw'n cael eu bwyta gyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a llai o filltiroedd bwyd, a chynnal safonau uchel o ran ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain y bwyd.