Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Selsig Morgannwg (Ll) gyda sglodion, ffa pob, pys a chorn melys a bara a thaeniad

Glamorgan style sausage (v) served with chips, baked beans, peas and sweetcorn and bread and spread

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

“Roedd yn blasu'n hyfryd, rwy'n hoffi beth sydd tu fewn" Trystan, Ffordd Blenheim

“Mae'n flasus dros ben, rwy'n hoffi'r blas" Eleanor, Ffordd Blenheim

"Anhygoel!" River, Ffordd Blenheim

“Hyfryd ac yn felys ac yn blasu fel winwns" Elliott, Mair a'r Angylion

“Blasus a Chawslyd" Obhran, Mair a'r Angylion

“Hyfryd a Chawslyd" George, Mair a'r Angylion

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein Selsig Morgannwg yn ffefryn o Gymru ac yn boblogaidd dros ben. Mae'n cyfuno caws Cheddar aeddfed, tato, cennin a winwns i greu pryd llysieuol blasus sy'n tynnu dŵr o'r dannedd ac yn llawn daioni. Mae'r llysiau wedi'u cynnwys yn glyfar ym mhob brathiad, ac felly mae'n ffordd flasus o fwynhau mwy o gynhwysion planhigion yn rhan o ddiet cytbwys.

Mae'r caws Cheddar aeddfed yn ffynhonnell werthfawr o galsiwm a phrotein, gan helpu i gynnal esgyrn cryf, dannedd iach a chyrff sy'n tyfu. Caiff y pryd hwn ei weini gyda'n sglodion ffwrn poblogaidd, a baratoir yn ffres ar y safle, ac mae'n golygu bod modd mwynhau ffefryn clasurol a chadw lefelau braster a braster dirlawn yn is nag opsiynau traddodiadol eraill wedi'u ffrio.

Law yn llaw â dewis o bys melys a chorn melys, sy’n darparu ffibr, fitaminau a mwynau, neu ffa pob â llai o halen a siwgr, mae’r pryd lliwgar hwn yn cynnig hyd yn oed mwy o ddaioni maethlon.

Mae Selsig Morgannwg yn glasur maethlon o Gymru. Mae'n bryd iachus, yn bodloni'r bol ac yn llawn blas, ac mae'n dal i fod yn ffefryn mawr ymhlith disgyblion.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Mae ein bara yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan helpu i gefnogi busnesau Cymru, swyddi lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol ehangach. Gall defnyddio cynhyrchion o ffynonellau sy'n agosach at ble maen nhw'n cael eu bwyta gyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a llai o filltiroedd bwyd, a chynnal safonau uchel o ran ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain y bwyd.

Dewis Effaith Carbon Is

Mae ôl troed carbon yr holl opsiynau ar ein bwydlenni wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae dewis selsig Morgannwg yn hytrach na selsig porc yn lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r pryd tua 75%.

Fel arfer, mae prydau sy'n seiliedig ar blanhigion yn bennaf yn cael effaith amgylcheddol is na'r rheiny sydd â mwy o gynhyrchion anifeiliaid. I ddisgyblion a theuluoedd sydd eisiau gwneud newidiadau bach, ymarferol tuag at ddiet mwy cynaliadwy, mae selsig Morgannwg yn cynnig dewis carbon is ond yn cadw'r blas, yr ansawdd a'r gwerth maethol a ddisgwylir mewn pryd ysgol.