
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Byddem wrth ein bodd i glywed eich barn!
Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk
Mae eich barn yn dylanwadu ar fwydlenni a ryseitiau’r dyfodol, felly mae pob sylw yn cyfrif.
Dewis Ein Dietegydd
Mae'r ffiledi cyw iâr tyner hyn yn naturiol uchel mewn protein ac yn isel mewn braster, ac wedi'u trwytho mewn garlleg i greu pryd blasus heb ddibynnu ar halen ychwanegol. Mae'r dewis maethlon hwn yn darparu'r protein sydd ei angen i gefnogi twf, datblygiad a'r gallu i ganolbwyntio trwy gydol y diwrnod ysgol.
Gweinir y pryd hwn gyda'n sgwariau tato â pherlysiau poblogaidd sy'n cael eu pobi yn y ffwrn, ac mae'n darparu egni sy'n rhyddhau'n araf er mwyn helpu i danio boliau'r disgyblion a sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio trwy'r prynhawn. Ochr yn ochr â ffefryn y disgyblion, sef brocoli wedi'i goginio'n ffres, gall disgyblion hefyd fwynhau cyfuniad lliwgar o lysiau rhost sy'n cynnwys pupurau, courgettes, moron, tomatos bach a winwns, gan ychwanegu ffibr, fitaminau a mwynau gwerthfawr at bob plât.
Mae'r pryd cytbwys hwn yn llawn protein braster isel a llysiau iach ac mae'n cynnig digon o flas, gan gyfuno blas bendigedig gyda maeth rhagorol.
Pryd lliwgar, maethlon sy'n darparu'r holl ddaioni sydd ei angen ar ddisgyblion, gyda blas garlleg bendigedig fydd yn dod â dwr i'w dannedd.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Safonau Gwarant Fferm y DU
Daw ein ffiledi cyw iâr o ffermydd sydd wedi cael Gwarant Tractor Coch y DU, gan ddarparu safonau sicrwydd sy'n cael eu harchwilio'n annibynnol ar gyfer llesiant anifeiliaid, diogelwch bwyd, y gallu i olrhain y cig ac amddiffyniad amgylcheddol. Mae hyn yn rhoi hyder fod y cyw iâr a weinir yn ein hysgolion wedi'i gynhyrchu i safonau cydnabyddedig ar draws y gadwyn gyflenwi, ac yn cefnogi ffermwyr y DU a'r sector amaethyddol ehangach ym Mhrydain.
Cefnogi Tyfwyr o Gymru
Lle bynnag y bo'n bosibl, rydyn ni'n defnyddio llysiau o Gymru ar gyfer bwydlenni ein hysgolion. Mae defnyddio cynnyrch gan gyflenwyr o Gymru yn helpu i gefnogi tyfwyr, busnesau a swyddi lleol, ac yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant. Gall argaeledd amrywio gan ddibynnu ar amodau tyfu tymhorol a chyflenwad y farchnad, ond defnyddio cynnyrch o Gymru yw'r dewis sydd orau gennym pryd bynnag y bydd ar gael ac yn bodloni ein safonau ansawdd.