
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Gwych" Henry, Ysgol Gynradd Croesyceiliog
"Da iawn!" Georgie, Ysgol Gynradd Croesyceiliog
Dewis Ein Dietegydd
Mae'r pwdin poblogaidd hwn yn gyfuniad blasus o ddaioni hufennog a ffrwythau melys naturiol, ac mae'n ffordd faethlon o orffen pryd ysgol cytbwys. Cynigir ffrwythau bob dydd amser brecwast a chinio, ac felly mae hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddisgyblion fwynhau un o'u 5-y-dydd ac elwa ar y fitaminau, y mwynau a'r ffibr o'r ffrwythau.
Mae'r chwyrlïad ffrwythau a'r diod sy'n dod gydag ef wedi eu gwneud o laeth ac yn cyfrannu calsiwm gwerthfawr er mwyn cefnogi esgyrn cryf a dannedd iach, yn ogystal â sinc, sef maetholyn pwysig ar gyfer twf, datblygiad a system imiwnedd iach.
Dyma bwdin ffrwythau a llaeth sy'n llawn blas a buddion maethlon, ac mae'n gyfuniad perffaith o flas a daioni.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru
Daw ein llaeth hanner-sgim o laethdai yng Nghymru, gan gefnogi ffermwyr, busnesau a swyddi lleol yn y gadwyn gyflenwi bwyd yng Nghymru. Gall defnyddio cynhyrchion llaeth o ffynonellau agosach at ble maen nhw'n cael eu defnyddio gyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a milltiroedd bwyd is, a chynnal safonau uchel o ran ffresni, ansawdd a'r gallu i olrhain.