
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Mae’r ffrwythau’n neis iawn a’r afalau yn llawn sudd" Izzi-Mae, Ysgol Panteg
"Y salad ffrwythau – rwy’n ei hoffi oherwydd mae ganddo ffrwythau gwahanol ac mae’n felys ac yn llawn sudd" Mylee, Ysgol Panteg
"Rydw i’n hoff iawn o’r melon. Mae’n neis iawn, yn llawn sudd ac yn felys" Frankie, Ysgol Panteg
Dewis Ein Dietegydd
Dyma ffordd ysgafn a blasus dros ben o orffen cinio ysgol - mae ein iogwrt braster isel, siwgr isel yn llawn daioni maethlon. Mae'n ffynhonnell werthfawr o brotein a chalsiwm, ac felly'n helpu i gefnogi twf iach ac esgyrn a dannedd cryf, ac yn cynnig blas hufennog sy'n bodloni'r bol ar yr un pryd.
Caiff y pwdin hwn ei weini gyda dewis o ffrwythau ffres, ac mae'n cyfrannu at 5 y dydd eich plentyn, gan ychwanegu melystra naturiol ynghyd â fitaminau, mwynau a ffibr.
Mae'r pwdin cytbwys, iachus, maethlon hwn sy'n llawn blas, yn gwneud y dewis iach yn un hawdd a phleserus.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Lleihau Gwastraff Plastig a Chefnogi Ailgylchu
Yn rhan o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, mae llawer o ysgolion wedi newid o botiau iogwrt 100g unigol i weini iogwrt o dwb 5kg mwy o faint. Mae gwneud hyn yn lleihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir fesul dogn yn sylweddol ond yn cynnal yr un ansawdd a gwerth maethol. Mae'r tybiau iogwrt mwy o faint hefyd yn gallu cael eu hailgylchu, gan helpu i gefnogi mentrau lleihau gwastraff ac adfer adnoddau.
Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru
Mae ein iogwrt yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan helpu i gefnogi ffermwyr Cymru, busnesau lleol a swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Gall defnyddio cynhyrchion o ffynonellau agosach at ble maen nhw'n cael eu bwyta gyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a milltiroedd bwyd is.