Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)
Fruit jelly and biscuit

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Y jeli gorau yn y byd" Lowri, Ysgol Panteg

"Mae'n dda, mae’n rhaid i ni ei gadw! Mae mor neis!!" Efa, Penygarn

"Dyma’r jeli sy’n blasu orau yn y byd" Ava, Ysgol Panteg

"Y peth gorau" Tilly, Ysgol Panteg

"Bendigedig!! Talia, Ysgol Panteg

Dewis Ein Dietegydd

Mae jeli yn ddewis poblogaidd bob tro ymhlith disgyblion, ond roedden ni eisiau ei wneud hyd yn oed yn fwy maethlon. Dyna pam mae pob dogn yn cael ei weini gyda dogn ffrwythau maint plentyn, gan helpu i gyfrannu tuag at un o 5-y-dydd eich plentyn ac ychwanegu fitaminau, mwynau a ffibr.

I'r rheiny sy'n dewis Picen ar y Maen draddodiadol, mae yna fuddion maethol hefyd. Mae Pice ar y Maen wedi'u gwneud â ffrwythau sych, ac yn darparu ffynhonnell bwysig o haearn a mwynau sy'n cefnogi twf, dysgu a datblygiad arferol. Y ffordd orau o fwynhau ffrwythau sych yw eu cynnwys mewn pryd o fwyd yn hytrach na fel byrbryd, ac felly mae'n ychwanegiad gwych at ginio ysgol cytbwys.

Gall disgyblion sy'n dewis jeli ffrwythau a Phicen ar y Maen flasus fwynhau diweddglo melys i'w pryd ac elwa ar ddaioni’r ffrwythau a'r maetholion sy'n cefnogi twf a llesiant iach.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Mae ein Pice ar y Maen yn cael eu cynhyrchu'n lleol yng Nghymru. Mae caffael ar fwyd a diodydd gan gyflenwyr o Gymru yn cefnogi busnesau lleol, cymunedau ffermio a swyddi yn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Gall hefyd gyfrannu at bellteroedd cludiant byrrach a llai o filltiroedd bwyd, a chynnal safonau uchel o ran ansawdd a’r gallu i olrhain ar yr un pryd.

Lleihau Gwastraff Cegin

Rydyn ni’n gweithredu system archebu ymlaen llaw bob dydd, sy'n galluogi disgyblion i ddewis eu prydau o flaen llaw. Mae'r dull hwn yn helpu timau arlwyo i baratoi digon o fwyd i gyd-fynd â'r galw, gan leihau'r risg o orgynhyrchu a helpu i leihau gwastraff bwyd a gynhyrchir yn y gegin.

Lleihau Gwastraff ar Blatiau

Mae ymgysylltu â disgyblion yn rhan bwysig o'n proses o ddatblygu bwydlenni. Trwy ofyn am adborth disgyblion yn rheolaidd a chynnwys yr hyn maen nhw’n ei hoffi wrth gynllunio ein bwydlenni, gallwn gynnig prydau bwyd sy'n gytbwys o ran maeth ac yn cael eu mwynhau'n eang. Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn helpu i sicrhau bod mwy o’r bwyd yn cael ei fwyta ac mae’n lleihau gwastraff ar blatiau, gan gefnogi amcanion cynaliadwyedd a defnyddio adnoddau’n effeithlon.