Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)
Vanilla Ice Cream with Mandarins

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Rwy'n caru'r hufen iâ, blasus iawn!" Eston, Ysgol Gynradd Garnteg

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein tybiau hufen iâ unigol yn ddogn melys perffaith o'r maint cywir i ddisgyblion ei fwynhau yn rhan o ddiet cytbwys. Caiff y pwdin hwn ei weini ochr yn ochr â darn o ffrwythau, ac mae'n cyfrannu tuag at 5 y dydd eich plentyn ac yn ychwanegu fitaminau, mwynau a ffibr gwerthfawr ar yr un pryd.

Mae'r cyfuniad o hufen iâ hufennog a ffrwythau sy’n naturiol felys yn creu cydbwysedd blasus rhwng blas a maeth, gan orffen pryd amser cinio mewn ffordd sy'n bodloni'r bol.

Pwdin perffaith i dynnu dŵr o'r dannedd, sy'n cyfuno daioni ffrwythau gydag ychydig bach o foethusrwydd.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Lleihau Plastig Untro a Chefnogi Ailgylchu

Yn rhan o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, mae'r tybiau hufen iâ unigol hyn wedi'u pecynnu mewn cynwysyddion sy'n gallu cael eu compostio ac sydd wedi'u dylunio i bydru o fewn tua 180 diwrnod o dan amodau compostio addas. Mae'r caeadau hefyd yn gallu cael eu hailgylchu'n llwyr, gan helpu i leihau gwastraff a chefnogi dull mwy cylchol o becynnu.

Trwy ddewis cynhyrchion â phecynnau sy'n cael effaith is, rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau dibyniaeth ar blastigau untro confensiynol ac yn annog rheoli ac ailgylchu gwastraff cyfrifol.