Macaroni â brocoli a chaws gyda thopin o friwsion crensiog gyda bara garlleg a salad

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Y gorau dw i wedi ei flasu erioed " Eva, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim

"Roedd yn berffaith ar ben ei hun " Myla, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim

"Rwy’n ei hoffi oherwydd mae’n llawn caws ac yn hyfryd " Cater, Ysgol Gynradd Blaenafon

"Rwy’n ei hoffi oherwydd maen nhw’n ei wneud e’ mewn ffordd hyfryd " Lily, Ysgol Gynradd Croesyceiliog

Dewis Ein Dietegydd

NEWYDD ar gyfer 2025!!!

"Rydyn ni’n gwybod bod Macaroni a Chaws yn hen ffefryn, ond yma rydyn ni'n ychwanegu brocoli, ffynhonnell gyfoethog ar gyfer Fitamin C a K, sy’n cyfrannu at ein targed o 5 y dydd. Mae'r rysáit hon yn defnyddio llaeth hanner-sgim i leihau'r braster yn ein saws caws, ac mae’r llaeth a'r caws yn ffynhonnell wych ar gyfer calsiwm i sicrhau esgyrn a dannedd iach.

Ar ben hynny, mae ein topin crensiog wedi'i wneud o greision ŷd wedi'u malu. A wyddech chi fod creision ŷd yn cael eu hatgyfnerthu â maetholion ychwanegol gan gynnwys ribofflafin, haearn, thiamin, asid ffolig yn ogystal â Fitamin D? Mae fitamin D yn chwarae rhan allweddol wrth amsugno calsiwm sydd mor bwysig ar gyfer esgyrn iach. Y ffynhonnell orau ar gyfer Fitamin D yw golau'r haul, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer o ddisgyblion yn treulio llai o amser yn chwarae allan yn yr awyr agored felly gall bwydydd wedi'u hatgyfnerthu â Fitamin D fod yn bwysig yn eu diet.

Mae’r salad ar yr ochr yn cyfrannu ymhellach at 5 y dydd ein disgyblion, ac felly rydyn ni’n credu y bydd y pryd hwn yn boblogaidd iawn ymhlith disgyblion a rhieni."

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae’r llaeth hanner-sgim yn ein saws gwyn a’n caws Cheddar o Gymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd.