
Pam ddewison ni’r pryd hwn
Dewis ein Disgyblion
"Caru e" Anthony, Maendy
"Maen nhw’n hyfryd" Mia, Woodlands
"Blasus iawn" Taylor, Woodlands
"Gwên a bawd i fyny!" Alice, Maendy
"Hyfryd iawn" Elijah, Woodlands
Dewis ein Dietegydd
Mae ein bysedd pysgod penfras wedi eu gwneud â physgod o ansawdd a haenen briwsion bara, yna maen nhw’n cael eu pobi yn y ffwrn gyda’n darnau tatws perlysiog i roi pryd maethlon a digonol.
Yn uchel mewn protein ac yn isel mewn braster, mae penfras yn darparu maetholion pwysig i gefnogi twf, datblygiad a chanolbwyntio trwy gydol y diwrnod ysgol. Trwy gynnwys pysgod yn rheolaidd ar ein bwydlenni, rydym yn helpu disgyblion i fwynhau buddion y bwyd maethlon hwn fel rhan o ddiet cytbwys.
Gyda dewis pys melys ac India corn neu ffa pob â llai o halen a siwgr, mae’r pryd poblogaidd yma hefyd yn cyfrannu ffibr, fitaminau a mwynau i gefnogi disgyblion iach, gweithgar.
Cinio ysgol blasus, a ffefryn sy’n cyfuno blas gwych gyda digon o ddaioni maethlon.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Pysgod wedi eu Caffael yn Gyfrifol
Fel rhan o’n hymrwymiad at gynaliadwyedd amgylcheddol, rydym ond yn defnyddio bysedd pysgod wedi eu gwneud o bysgod a ardystir gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC). Mae ardystiad MSC yn helpu i sicrhau bod pysgod yn dod o bysgodfeydd wedi eu rheoli’n dda sy’n cefnogi poblogaethau pysgod iach ac yn lleihau effeithiau ar ecosystemau morol. Trwy ddewis cynhyrchion a ardystir gan MSC, rydym yn cefnogi cynaliadwyedd tymor hir ein moroedd a’n stoc pysgod.
Cefnogi Cynnyrch Cymreig
Mae ein bara wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, gan helpu i gefnogi busnesau lleol, swyddi a’r economi Gymreig. Gall cael bwyd yn agosach i ble mae’n cael ei fwyta hefyd helpu i leihau pellteroedd cludiant, gan gyfrannu at gadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy.