Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Cacen fetys oren a siocled gyda ffrwythau a chwstard

Chocolate orange beet cake with fruit and custard

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

“Sbwng – mae'n lysh" Esma, New Inn

Dewis Ein Dietegydd

Ar yr olwg gyntaf, gallai pwdin siocled a betys edrych fel dewis anarferol i ddietegydd. Ond, mae'r rysáit hwn wedi'i ddatblygu'n ofalus i ddarparu pwdin blasus a maetholion gwerthfawr.

Mae'r rysáit yn cynnwys llai o fraster ymhob dogn a dim ond symiau bach o siwgr ychwanegol, a daw llawer o'r melystra yn naturiol o ffrwythau a llysiau. Mae betys ffres, powdr coco a thriog i gyd yn cyfrannu at broffil maethol y pwdin, ac mae’n darparu haearn, sef un o’r mwynau pwysig sy'n galluogi’r meddwl i weithio’n iawn ac yn helpu i ffurfio celloedd gwaed coch iach.

Gyda chyfuniad o orennau ffres, sudd oren a betys ffres, mae'r pwdin hwn hefyd yn ffynhonnell fitamin C, sy'n helpu i gefnogi imiwnedd arferol ac yn gwella gallu’r corff i amsugno haearn o gynhwysion planhigion.

Caiff y pwdin hwn ei weini gyda'n cwstard hufennog, wedi'i wneud o laeth lled-sgim ffres, ac mae hefyd yn darparu calsiwm, sy'n hanfodol ar gyfer twf a datblygiad arferol esgyrn a dannedd plant. Mae'r llaeth yn cyfrannu sinc hefyd, sef un o’r mwynau sy'n bwysig ar gyfer twf arferol, imiwnedd ac iechyd yn gyffredinol.

Pwdin blasus sy'n cyfuno blas gwych â daioni ffrwythau, llysiau a llaeth - gan brofi y gall dewisiadau maethlon fod yn ffefrynnau hefyd.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Daw'r llaeth lled-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard o Gymru, gan gefnogi ffermwyr Cymru, busnesau lleol a swyddi yn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Mae defnyddio cynhyrchion llaeth sy'n agosach at ble maen nhw'n cael eu bwyta yn gallu cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, a chynnal y safonau uchel o ran ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain a ddisgwylir yn ein prydau ysgol.