Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Ffiled o frest cyw iâr gyda stwffin, tato rhost a thato wedi’u berwi, llysiau a grefi

Roast chicken with stuffing, roast and boiled potatoes, veg selection and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

"Da iawn, 10 allan o 10" Isaac, Ysgol Dewi Sant

"Rwy'n caru cyw iâr" Harry, Woodlands

"Iymi" Leo, Woodlands

"Blasu'n neis iawn" Jake, Woodlands

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein cyw iâr rhost yn ffynhonnell naturiol ar gyfer protein braster isel, gan fodloni boliau ein disgyblion am y prynhawn a darparu maetholion pwysig fel haearn a sinc, sy'n cefnogi twf, datblygiad a llesiant arferol.

Mae pob pryd yn cael ei weini gyda dewis o lysiau, tato rhost a thato wedi’u berwi, gan helpu disgyblion i fwynhau cinio cytbwys sy'n cyfrannu ffibr, fitaminau a mwynau gwerthfawr.

Mae ein tato rhost poblogaidd yn cael eu coginio yn y ffwrn heb fraster ychwanegol, gan ddarparu holl flas a phleser cinio rhost traddodiadol a chefnogi proffil maethol iachach.

Dyma bryd ysgol clasurol sy’n iachus, yn faethlon ac yn llawn blas, ac mae’n darparu'r egni a'r maetholion sydd eu hangen ar ddisgyblion i gefnogi prynhawn prysur o ddysgu.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Safonau Gwarant Fferm y DU

Daw ein ffiledi cyw iâr o ffermydd sydd â Gwarant Tractor Coch y DU, gan ddarparu safonau sicrwydd sy'n cael eu harchwilio'n annibynnol ar gyfer lles anifeiliaid, diogelwch bwyd, y gallu i olrhain y cig ac amddiffyniad amgylcheddol. Mae hyn yn rhoi hyder fod y cyw iâr a weinir yn ein hysgolion wedi'i gynhyrchu i safonau cydnabyddedig ar draws y gadwyn gyflenwi, ac yn cefnogi ffermwyr y DU a'r sector amaethyddol ehangach ym Mhrydain.

Cefnogi Tyfwyr o Gymru

Lle bynnag y bo'n bosibl, rydyn ni'n defnyddio llysiau o Gymru ar gyfer bwydlenni ein hysgolion. Mae defnyddio cynhyrchion gan gyflenwyr o Gymru yn helpu i gefnogi tyfwyr, busnesau a swyddi lleol, ac yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant. Gall argaeledd amrywio gan ddibynnu ar amodau tyfu tymhorol a chyflenwad y farchnad, ond defnyddio cynnyrch o Gymru yw'r dewis sydd orau gennym pryd bynnag y bydd ar gael ac yn bodloni ein safonau ansawdd.