
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
"Mae e’ llawn cystal â Domino’s" Oliver, Ysgol Panteg
"Y pryd gorau yn y byd" Ruby, Ysgol Panteg
"Rwy'n ei hoffi yn fawr oherwydd mai dyma fy hoff fwyd" Antek, Padre Pio
"Rwy'n hoffi sut mae'r caws yn ymestyn" Daniel, Padre Pio
"Roedd y pitsa'n lysh" Joey, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
"Roedd yn dda iawn! Roeddwn i wrth fy modd!" Toby, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim
"Mae'r pitsa'n wych a hoffwn ei weld yn fwy aml ar y fwydlen" Pippa, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion
"Rwy'n ei hoffi oherwydd mai dyma fy hoff eitem ar y fwydlen" Dylan, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion
Dewis Ein Dietegydd
Mae ein Pitsa Caws a Thomato yn ffefryn cadarn sy'n cyfuno blas bendigedig â maeth iachus. Caiff ei greu ar sylfaen a ddewiswyd yn arbennig, sy'n cynnwys blawd gwenith cyflawn ychwanegol, gan ddarparu ffibr ychwanegol i gefnogi treulio iach a helpu disgyblion i deimlo'n llawn am gyfnod hirach. Gyda saws tomato cyfoethog a chaws wedi'i doddi, caiff ei bobi i berffeithrwydd, ac mae'n ffynhonnell flasus o galsiwm i gynnal esgyrn cryf a dannedd iach.
Caiff y pryd hwn ei weini ochr yn ochr â'n sgwariau tatws â pherlysiau wedi'u pobi, gan roi'r holl flas y mae disgyblion yn ei garu a chadw lefelau braster a braster dirlawn yn is na dewisiadau traddodiadol wedi'u ffrio.
I gwblhau'r pryd, gall disgyblion ddewis o amrywiaeth o lysiau lliwgar, gan gynnwys pys a chorn melys a salad wedi'i baratoi'n ffres. Cinio blasus, cytbwys sy'n ei gwneud hi'n hawdd mwynhau mwy o ffibr, llysiau a maetholion hanfodol yn rhan o'r diwrnod ysgol.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru
Rydyn ni’n defnyddio caws wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar ein pitsas i gyd, gan gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd o Gymru a swyddi yn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Mae defnyddio cynhwysion lleol yn helpu i gryfhau economi Cymru ac yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, tra'n cynnal safonau uchel o ran ansawdd, y gallu i olrhain a ffresni.