
Pam ddewison ni'r pryd hwn
Dewis ein Disgyblion
"Mae e llawn cystal â Domino's" Oliver, Ysgol Panteg
"Y pryd gorau yn y byd" Ruby, Ysgol Panteg
"Rwy'n ei hoffi yn fawr oherwydd mai dyma fy hoff fwyd" Antek, Padre Pio
"Rwy'n hoffi sut mae'r caws yn ymestyn" Daniel, Padre Pio
"Roedd y pitsa'n lysh" Joey, Ysgol Gynradd Blenheim Road
"Roedd yn dda iawn! Roeddwn i wrth fy modd!" Toby, Ysgol Gynradd Blenheim Road
"Mae'r pitsa'n wych a hoffwn ei weld yn fwy aml ar y fwydlen" Pippa, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion
"Rwy'n ei hoffi oherwydd mai dyma fy hoff eitem ar y fwydlen" Dylan, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion
Dewis ein Dietegydd
Ffefryn cadarn sy'n cyfuno blas gwych â maeth iachus, mae ein Pitsa Caws a Thomato wedi'i wneud ar sylfaen a ddewiswyd yn arbennig sy'n cynnwys blawd gwenith cyflawn ychwanegol, gan ddarparu ffibr ychwanegol i gefnogi treuliad iach a helpu disgyblion i deimlo'n llawn am gyfnod hirach. Gyda saws tomato cyfoethog a chaws wedi'i doddi, yna wedi'i bobi i berffeithrwydd, mae'n ffynhonnell flasus o galsiwm i gynnal esgyrn cryf a dannedd iach.
Wedi ei weini ochr yn ochr â'n sglodion wedi'u pobi, mae'r pryd hwn yn rhoi'r holl flas y mae disgyblion yn ei garu tra'n cadw lefelau braster a braster dirlawn yn is na dewisiadau amgen wedi'u ffrio fel sy'n draddodiadol.
I gwblhau'r pryd, gall disgyblion ddewis o nifer o lysiau lliwgar, gan gynnwys pys ac india-corn, salad wedi'i baratoi'n ffres, neu ffa pob â llai o halen a llai o siwgr. Cinio blasus, cytbwys sy'n ei gwneud hi'n hawdd mwynhau mwy o ffibr, llysiau a maetholion hanfodol fel rhan o'r diwrnod ysgol.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Cynhyrchwyr Cymreig
Rydym yn defnyddio caws wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar ein pitsas i gyd, gan gefnogi ffermwyr Cymru, cynhyrchwyr bwyd a chyflogaeth o fewn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Mae cael cynhwysion yn lleol yn helpu i gryfhau economi Cymru ac yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, tra'n cynnal safonau uchel o ansawdd, gallu i olrhain a ffresni.