Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Brocoli a thatws gyda thopin garlleg crensiog (Ll) wedi'i weini gyda brocoli a llysiau rhost y Canoldir

Broccoli and potato bake with a garlic crumb (V) served with Mediterranean roasted vegetables

Pam ddewison ni’r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

NEWYDD AR GYFER 2026!

Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Byddem wrth ein bodd i glywed eich barn!

Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk

Bydd eich barn yn dylanwadu ar fwydlenni a ryseitiau’r dyfodol, felly mae pob sylw yn cyfrif. Mae eich llais yn bwysig!

Dewis Ein Dietegydd

Mae ein brocoli a thatws cawslyd cartref yn profi bod prydau planhigion yn gallu bod yr un mor flasus, cysurus a maethlon â'r fersiynau cig. Mae'r ffefryn iachus hwn yn llawn tatws tyner a brocoli, ac yn gyfoeth o ffibr, fitaminau a mwynau, gan gefnogi twf iachus a llesiant.

Mae'r saws caws hufennog yn ychwanegu ffynhonnell werthfawr o brotein a chalsiwm er mwyn cefnogi esgyrn a dannedd cryf, ac mae'r topin garlleg euraidd yn rhoi gwead crensiog a blas i bob brathiad. Rydyn ni'n creu'r pryd hwn o'r dechrau'n deg yn ein ceginau, gyda chynhwysion a ddewiswyd yn ofalus, a holl ddaioni pryd cartref.

Caiff ei weini gyda sgwariau tato â pherlysiau a bobwyd yn y ffwrn, gan ddarparu egni sy'n rhyddhau'n araf i danio boliau'r disgyblion trwy gydol y prynhawn. Daw'r pryd hwn gyda brocoli wedi'u coginio'n ffres a chyfuniad lliwgar o lysiau rhost sy'n cynnwys pupurau, courgettes, moron, tomatos bach a winwns, ac felly mae'n llawn o ddaioni'r llysiau, ffibr a blas.

Dyma bryd blasus, lliwgar, cysurus sy'n llawn maeth, ac mae'n ffefryn iachus sy'n sicr o fodloni boliau a blas y disgyblion a sicrhau eu bod yn barod at weddill y diwrnod ysgol.

Prydau Ysgol Cynaliadwy

Dewis effaith carbon is

Cyfrifwyd ôl troed carbon ein ryseitiau i gyd gan ddefnyddio methodoleg a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin. Ar sail y dadansoddiad hwn, mae dewis y pryd hwn yn lle'r Cyw Iâr Garlleg sydd ar gael ar yr un diwrnod yn golygu eich bod yn dewis pryd sydd ag allyriadau nwyon tŷ gwydr dros bum gwaith yn is.

Cydnabyddir yn eang fod cynnwys mwy o brydau planhigion yn y diet yn ffordd effeithiol o leihau effaith amgylcheddol bwyta bwyd. I ddisgyblion a theuluoedd sydd eisiau gwneud newidiadau bach, ymarferol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, mae'r pryd hwn yn cynnig dewis carbon is ond yn dal i gynnig cinio blasus a maethlon.

Cefnogi Cynhyrchwyr o Gymru

Mae'r caws Cheddar a ddefnyddir yn y pryd hwn yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ffermwyr, busnesau a swyddi yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi bwyd ranbarthol. Mae defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr lleol a rhanbarthol yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, ac ar yr un pryd yn cynnal safonau uchel o ran ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain y bwyd.