
Pam ddewison ni’r pryd hwn
Dewis Ein Disgyblion
"Anhygoel" Aria, Ysgol Gynradd Blenheim Road
"5 Seren i gyd, mae’n HYFRYD!" Lianees, Ysgol Gynradd Blenheim Road
"Blasus, hyfryd, 5 seren" Amelia, Ysgol Gynradd Blenheim Road
"Rwy’n hoffi hwn. Mae fy mam yn gwneud hwn" Belle, Ysgol Gynradd Blenheim Road
Dewis Ein Dietegydd
Mae ein byrgers wedi eu gwneud ag o leiaf 80% o gig, gan roi ffynhonnell dda o haearn a sinc – dau fwyn pwysig sy’n cefnogi twf, datblygiad a lles cyffredinol. I’w cadw’n is mewn braster na byrgers traddodiadol wedi eu ffrio, maen nhw’n cael eu pobi yn y ffwrn yn lle.
Yn unol â safonau bwyd ysgolion Llywodraeth Cymru, rydym yn cydbwyso’n bwydlen yn ofalus ac yn cyfyngu ar gynnyrch cig wedi ei brosesu, a dyma pam mai dyma’r unig gynnyrch cig sy’n ymddangos ar y fwydlen yn ystod yr wythnos.
Mae ein sglodion yn y popty’n boblogaidd, gan roi’r mwynhad o ffefryn traddodiadol a helpu i leihau braster a braster dirlawn o gymharu â dewisiadau amgen wedi’u ffrio.
Mewn rhôl bara meddal, mae’r pryd hefyd yn rhoi carbohydradau ar gyfer egni i helpu disgyblion i gadw i fynd trwy gydol y diwrnod ysgol. Mae blawd o’r DU yn cynnwys ategion maeth gan gynnwys haearn, gan wneud bara’n fwyd sy’n cyfrannu’n ddefnyddiol at ddiet cytbwys.
I hybu faint o lysiau sy’n cael eu bwyta a chefnogi disgyblion i fwyta 5 y dydd, rydym yn eu hannog i gymryd pys ac india corn gyda’u pryd, i gael ffibr, fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn. Fel arall, gall disgyblion ddewis ein ffa pob â llai o halen a siwgr, gan gynnig ffordd faethlon arall i ychwanegu a ffibr i’w cinio.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Cynhyrchwyr Cymreig
Mae ein rholiau bara’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan helpu i gefnogi busnesau Cymreig, cyflogaeth leol a’r gadwyn gyflenwi bwyd ehangach. Gall prynu cynhyrchion yn agosach i’r lle maen nhw’n cael eu bwyta’n cyfrannu at gadwyni cyflenwi a llai o bellteroedd cludiant, tra’n cynnal ansawdd a ffresni sy’n cael eu disgwyl fel rhan o’n prydau ysgol.