
Pam ddewison ni'r pryd hwn
Dewis ein Disgyblion
"Neis iawn ac yn llawn blas" Jaydee, Garnteg
Dewis ein Dietegydd
Mae ein Fflapjac Bricyll blasus yn drît iachus sy'n llawn daioni. Wedi'i wneud gyda cheirch, mae'n rhoi ffibr i gefnogi treuliad iach, tra hefyd yn cyfrannu maetholion pwysig fel haearn a sinc, sy'n cyfrannu'n allweddol at dwf, canolbwyntio a lles cyffredinol.
Mae bricyll melys yn ychwanegu blas naturiol ac yn dod â ffibr ychwanegol a Fitamin A, gan gefnogi golwg iach ac imiwnedd. Gyda gwydraid o laeth, mae'r cyfuniad blasus hwn yn darparu calsiwm ar gyfer esgyrn cryf a dannedd iach, gan gynnig ffordd faethlon o fwynhau trît melys.
Yn llawn blas a maetholion hanfodol, mae ein Ffapjac a Llaeth yn bwdin boddhaol sy'n cyfuno cynhwysion iach â blas hyfryd.
Prydau Ysgol Cynaliadwy
Cefnogi Cynhyrchwyr Cymreig
Mae ein llaeth hanner-sgim yn dod o laethdai Cymru, gan helpu i gefnogi ffermwyr, busnesau a chyflogaeth lleol yn sector bwyd ac amaethyddiaeth Cymru. Mae caffael cynhyrchion llaeth gan gyflenwyr rhanbarthol yn cyfrannu at gadwyni cyflenwi byrrach a llai o bellteroedd cludiant, tra'n cynnal safonau uchel o ansawdd, ffresni a'r gallu i olrhain.