Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Rhaglen buddsoddi mewn ysgolion

Canolfan Adnoddau Dysgu Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw bellach wedi'i chymeradwyo a bydd yn agor ar 1 Medi 2026. Mae dolen i adroddiad a phenderfyniad yr Aelod Gweithredol (yn agor mewn tab newydd) yma.


Dros y blynyddoedd nesaf, ac yn amodol ar gyllid gan raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae'r cyngor yn bwriadu buddsoddi yn yr ysgolion canlynol:

  • Ysgol Bryn Onnen
  • Ysgol Gymraeg Cwmbrân
  • Ysgol Gorllewin Mynwy
  • Ysgol Abersychan
  • Ysgol Uwchradd Cwmbrân
  • Ysgol Gynradd Llanyrafon
  • Ysgol Gynradd Pontnewydd
  • Ysgol Gynradd Coed Eva
  • Ysgol Gynradd Croesyceiliog

Mae cynlluniau hefyd i gynyddu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg a lleoedd o fewn yr Uned Cyfeirio Disgyblion, a gweithio gyda'r Archesgobaeth Gatholig ar gynlluniau ar gyfer ysgolion Catholig yn y fwrdeistref.

Mae'n dilyn buddsoddiad gwerth £120m mewn ysgolion yn y fwrdeistref ers 2014, diolch i hen raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a'r fenter newydd, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Rhwng 2014-2019, buddsoddwyd £91m mewn:

  • Tair ysgol gynradd newydd - Llantarnam, Blenheim ac Ysgol Panteg
  • Ysgol uwchradd newydd yng Nghroesyceiliog
  • Ymestyn ac adnewyddu pedair ysgol gynradd - Garnteg, Cwmffrwdoer, Pen-y-garn, cyfnod cynradd newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw
  • Gwelliannau i Ysgol Uwchradd Cwmbrân
  • Parth Dysgu newydd yn Nhorfaen

Caewyd deg safle ysgol hefyd i gael gwared ar leoedd dros ben.

Rhwng Ebrill 2019 a 2025, buddsoddwyd bron i £30m mewn meithrinfa newydd yn Ysgol Gynradd Maendy a chanolfan adnoddau ac asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghwmbrân. Cafodd ysgol Crownbridge hefyd ei hymestyn i gynnig 50 o leoedd ychwanegol.

Mae'r gwaith yn rhan o amcan y cyngor i godi cyrhaeddiad addysgol i helpu pobl ifanc ac oedolion i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol.

Mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad fel Cyngor Marmot i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar.

Dysgwch fwy am gynlluniau buddsoddi ysgolion ar gyfer y flwyddyn i ddod yng Nghynllun Cyflawni blynyddol ein Cynllun Sirol.