Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gwirfoddoli gyda’n Gilydd ar gyfer Yr Help Llaw Mawr

Pontypool bandstand in the background with advertising for The Big Help Out

Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr, rydyn ni’n dathlu ein cymuned wych o wirfoddolwyr sy'n helpu i ddod â Bargen Torfaen yn fyw. Heddiw, rydyn ni’n sôn am y grwpiau gwirfoddol sy'n dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.

Mae pum grŵp gwirfoddol wedi cytuno i gydweithio'n agosach yn rhan o Gynghrair Gwirfoddoli newydd Pont-y-pŵl.

Mae Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl, Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl, Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, ArtRegen a Fforwm Mynediad Torfaen wedi dod at ei gilydd i gydweithio'n fwy ar brosiectau sy'n gwella canol y dref ac yn ei harddu.

I lansio’r gwaith, bydd y grwpiau’n cynnal digwyddiad Help Llaw Mawr a Chinio Mawr ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 2 Mehefin, gyda chefnogaeth Cynghrair Gwirfoddol Torfaen.

Bydd gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Codi sbwriel ar draws Tref a Pharc Pont-y-pŵl
  • Chwynnu ym Maes Parcio Amgueddfa Torfaen
  • Glanhau arwyddion
  • Clirio llwybrau
  • Twtio cloddiau a mannau gwyrdd yn gyffredinol

Mae croeso i unrhyw wirfoddolwyr gwrdd yn y Bandstand ym Mharc Pont-y-pŵl am 10am. Darperir cinio gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Cofrestrwch yma (yn agor mewn tab newydd)

Meddai Aimi Morris, Prif Weithredwr Cynghrair Gwirfoddol Torfaen: "Mae Cynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi bod yn falch o gefnogi grwpiau lleol i ddod at ei gilydd i archwilio sut y gallant gydweithio'n well er budd Pont-y-pŵl.

"Mae'r gynghrair sy'n dod i'r amlwg yn adlewyrchu cyd-ymrwymiad i gryfhau cysylltiadau cymunedol, annog gwirfoddoli, a chyflawni newid cadarnhaol trwy weithredu ar y cyd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymunedau: "Mae'r gynghrair yn enghraifft o Fargen Torfaen ar waith. Mae'r Fargen yn ffrwyno pŵer cymunedau i adnabod nodau cyffredin a’u cyflawni ochr yn ochr â sefydliadau fel y Cyngor a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen, i helpu ein cymunedau i fod yn iachach ac yn fwy cydnerth."

Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiadau cenedlaethol Yr Help Llaw Mawr a’r Cinio Mawr gael eu cynnal ar yr un penwythnos.

Nod yr Help Llaw Mawr yw annog pobl i roi tro ar wirfoddoli a nod y Cinio Mawr yw dathlu bwyd, cyfeillgarwch a hwyl.

Cewch lond lle o gyfleoedd gwirfoddoli ar Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen, dewch draw i'n Pentref Bargen Torfaen yn Nigwyddiad Mawr Cwmbrân, ddydd Sadwrn 13 Mehefin, a’r Parti yn y Parc, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.